Tehuelche: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyswllt allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Urville-Patagonians.jpg|250px|de|bawd|Gwersyll Tehuelche, 1838.]]
Pobl frodorol [[Patagonia]] yw'r '''Tehuelche''' (yr '''Aónikenk''' yn y de a'r '''Günün-A-Küna''' yn y gogledd). Cyfeirir atynt weithiau fel y '''Patagones'''. Roedd rhai 4,000 neu 5,000 ohonyn yn byw yn yr ardal cyn i'r Ewropeaid gyrraedd, ond lleihaodd eu nifer yn gyflym ac ar ôl y [http://www.ethnologue.com/show_language.asp?code=teh Databas Ethnolegol] does dim ond 4 o bobl yn siarad yr iaith heddiw.
[[Delwedd:Tehuelche o Aónikenk.JPG|bawd|chwith|Un o frodorion gwreiddiol Patagonia, ac aelod o'r Tehuelche]]
 
Yr Ewropeiaid cyntaf i gwrdd â'r Tehuelche oedd y morwyr ar long [[Ferdinand Magellan]] ym [[1520]] a cheir adroddiad amdanynt gan [[Antonio Pigaffeta]], cartograffydd a chroniclydd y daith. Daethant i gysylltiad a'r Cymry yn [[y Wladfa]] yn [[Dyffryn Camwy|Nyffryn Camwy]] o fewn tua blwyddyn i sefydlu'r Wladfa. Ar y cyfan, roedd y berthynas rhwng y Gwladfawyr a'r Tehuelche yn dda iawn; a dysgodd y Tehuelche lawer i'r Cymry am y wlad ac am ddulliau hela brodorol.