Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhys Ifans"

Ychwanegwyd 18 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Rhys Owain Evans
(Rhys Owain Evans)
| galwedigaeth = [[Actor]]
}}
[[Actor]] a chanwr o Gymru yw '''Rhys Ifans''' (ganed Rhys Owain Evans: [[22 Gorffennaf]] [[1967]]). Cafodd ei eni yn [[Hwlffordd]], [[Sir Benfro]], ond symudodd y teulu i [[Rhuthun|Ruthun]] yn [[Sir Ddinbych]], lle cafodd ei addysg gynradd yn [[Ysgol Pentrecelyn]] a'i addysg uwchradd yn [[Ysgol Maes Garmon]], yr Wyddgrug. Roedd ei fam, Beti Wyn, yn Brifathrawes yn [[Dinbych|Ninbych]] tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn, ei dad, yn athro cynradd ym [[Bwcle|Mwcle]]. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn [[Theatr Clwyd]], [[Yr Wyddgrug]].
 
Yn Gymro [[Cymraeg]], ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis ''[[Pobol y Chyff]]'' ar [[S4C]] cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.