Comin Wicimedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
ehangu
Llinell 16:
==Ffeiliau o Gymru==
Ymhlith y miloedd o ffeiliau o Gymru, yn Chwefror 2014 uwchlwythwyd holl ffotograffau [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]] wedi i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] ddatgan nad ydynt yn berchennog ar y ffeiliau hynny alan o hawlfraint. Mae'r ffotograffau hyn i'w gweld [[Commons:Category:Photographs by John Thomas|yma]].
 
==Dolennu gydag erthyglau Wicipedia==
Mae 'galw' delwedd i fewn i erthygl ar Wicipedia yn hawdd, gan mai'r cwbwl sydd angen ei wneud ydy galw ei enw o fewn cromfachau sgwâr e.e. <nowiki>[[Delwedd|Dafydd-Iwan-Portrait_by-Aberdare-Blog.jpg|bawd]]</nowiki>; mae'r geiryn 'bawd' yn lleihau'r maint i'r maint arferol. Gall y ddelwedd fod ar Gomin neu ar y Wicipedia. Mae'r lluniau sydd ar Comin ar gael ar unrhyw un o'r 290+ Wicipedia, ond mae llun a uwchlwythir ar y Wicipedia Cymraeg ar gael yn yr iaith honno'n unig (e.e. cloriau llyfrau).
 
Ar waelod llawer o erthyglau ar Wicipedia ceir baner ar ffurf petrual, sy'n ei gwneud yn hawdd i ddolennu gyda Chomin. Gellir dolennu gyda thudalen ar Comin neu gyda Chategori ar Comin. I ddolennu gydag erthygl ar Comin gellir ychwanegu'r Nodyn hwn: <nowiki>{{Comin|Dafydd Iwan}}</nowiki>. Os oes Categori o luniau ar Comin, gellir ychwanegu dolen i'r Categori hwnnw: e.e. <nowiki>{{CominCat|Corduliidae}}</nowiki>. [[Delwedd:Comin Cord.PNG|frameless|upright=1.8|alt=Nodyn Comin|Nodyn Comin]] Gan mai'r Saesneg yw iaith ''de facto'', rhyngwladol Comin, dylid nodi'r enw yn yr iaith sydd ar Comin e.e. <nowiki>{{CominCat|Assemblea Nacional Catalana}}</nowiki> ac NID <nowiki>{{CominCat|Cynulliad Cenedlaethol Catalonia}}</nowiki>.
 
==Gweler hefyd==