Plas Tan y Bwlch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dal ati
Llinell 1:
Plasdy sy'n dyddio nôl i 1634 yw '''Plas Tan-y-Bwlch''' ac sydd wedi ei'i gofrestru ers Ebrill 1965 gan [[Cadw]] fel adeilad Gradd II*; ceir nifer o adeiladau eraill ar y tir sydd hefyd wedi'u cofrestru. Mae'n cael ei ddefnyddio ers 1975 fel Canolfan Addysg gan [[y Parc Cenedlaethol]], sef y perchnogion. Credir mai Plas Tan y Bwlch oedd y tŷ cyntaf yng ngogledd Cymru i gael golau trydan o’i ffynhonnell trydan hydro ei hun, yn y 1890au.
 
Cyn agor fel Canolfan Astudio ac atyniad twristaidd, roedd Plas Tan y Bwlch yn gartref i rai o deuluoedd cyfoethocaf Gogledd Cymru ac yn eu plith rhwng 1789 a 1961, roedd teulu'r Oakleys. Ym 1969 prynwyd y tŷ a'r gerddi gan Gyngor [[Sir Feirionnydd|Sir Meirionnydd]].
 
==Hanes==
Llinell 20:
Aeres y teulu Evans oedd Catherine, a phriododd Robert Griffith o Fach y Saint ger [[Cricieth]], gan ychwanegu at y stâd.
 
Penderfynodd eu hŵyr, Robert Griffith, ymestyn y tŷ yn 1748. Ei fab ef, Evan Griffith oedd gwryw diwethaf y teulu Griffith ac felly priododd yr aeresau gwŷr â phres a thir newydd. Priododd Margaret, merch Evan [[Griffith William Oakeley]] (1750-1811), gŵr ifanc cyfoethog o Forton, [[Swydd Stafford]] yn 1789. Parhaodd y stâd yn nheulu'rnwylo teulu'r Oakeleys am bron i 200 mlynedd.
 
===William Oakeley ===
Perchennog y Plas rhwng 1789-1822. Gyda dyfodiad [[William Oakeley g. 1789|William Oakeley]] (1750-1811), daeth cyfnod llewyrchus i’r stâd a oedd wedi cynyddu llawer trwy briodasau ac ewyllysiau. Roedd William Oakeley yn ŵr poblogaidd ac fe’i adnabyddid yn lleol fel ‘Oakeley Fawr’. Roedd yn siarad Cymraeg.
 
Caiff ei gofio'n bennaf am wella’r tir amaethyddol gwael yn y dyffryn o dan y Plas drwy ymgymryd â phrosiect enfawr a fyddai’n gwella’r tir trwy godi clawdd llanw bron i filltir o hyd. Costiodd y clawdd hwn £309, (£22,000 heddiw).
 
===William Griffith Oakeley (1790-1835)===
Perchennog y Plas rhwng 1811-1835. Llwyddodd [[William Griffith Oakeley]] i ddatblygu [[Chwarel yr Oakeley]] i fod y chwarel danddaearol mwya'r byd, gan gyflogi mwy na 1,600 o ddynion. Enillodd achos cyfreithiol arwyddocaol pan aeth ati i erlyn ac ennill achos yn erbyn yr Iddew Nathan Rothschild (a'r Goron) am dresbasu ar dir Tan y Bwlch wrth iddo chwilio am [[mwyn|fwynau]] a [[llechi]]. Drwy ennill yr achos hwn, dim ond y teulu Oakeley allai elwa o’r llechi ar eu tir.
 
Adeiladodd sawl cei llechi ar yr [[afon Dwyryd]] er mwyn hwyluso’r system o gludo’r llechi a chyfrannodd at y gwaith o greu [[Rheilffordd Ffestiniog]] er mwyn gallu cludo’r llechi yn gyflymach.
 
Bu farw William Griffith Oakeley yn ddi-blant a’i wraig, Louisa Jane Oakeley fu wrth y llyw nes i’r stâd gael ei throsglwyddo i fab ei gefnder sef [[William Edward Oakeley]] yn 1879.
 
===Lousia Jane Oakeley ===
Perchennog y Plas rhwng 1835-1879. Parhaodd Louisa Jane â gwaith ei gŵr ac aeth ati i ddatblygu ymhellach dref lechi [[Blaenau Ffestiniog]] trwy adeiladu ysbyty yn y dref ar gyfer ei chwarelwyr. Yn 1868, gadawodd Louisa Jane y Plas yn sydyn, gan ei drosglwyddo i ofal William. Ni ddaeth yn ôl i Gymru ac ni chafodd ei chladdu gyda’i gŵr.
 
===William Edwards Oakeley (1 Awst 1828–1 Chwefror 1912 )===
Perchennog y Plas rhwng 1879-1912. Mab i gefnder William Oakeley oedd wrth y llyw wedi 1879: [[William Edward Oakeley]]. Adeiladodd y ffenestri bwa sy’n edrych dros y lawnt, yr estyniad yn y de-orllewin sydd bellach yn dderbynfa a swyddfeydd ac adeiladodd bont i gysylltu’r prif dŷ gydag ystafelloedd y gweision a'r morynion. Ar ben hyn ailadeiladodd lawer ar bentref Maentwrog gan gynnwys yr Eglwys, cododd ysgol newydd a pharhaodd y cynllun adfer tir yn y dyffryn. Derbyniodd wobr am y gwaith adfer hwn gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau yn 1897.
 
Ond roedd ei ddiffyg dylanwad ar chwareli’r teulu yn echrydus ac arweiniodd hynny, yn y pen draw, at eu dirywiad ac at golledion ariannol yn yr 20fed ganrif. Credir mai Plas Tan y Bwlch oedd y tŷ cyntaf yng ngogledd Cymru i gael golau trydan o’i ffynhonnell trydan hydro ei hun yn y 1890au. Cynhyrchid y [[trydan]] gan [[olwyn pelton]], gyda dŵr yn cael ei gludo drwy pibell o Lyn Mair (llyn artiffisial a grëwyd gan Mary Oakeley). Roedd y pwerdy bychan ar y bryn y tu ôl i’r tŷ a dywedir fod y system ar waith hyd 1928.<ref>[http://www.eryri-npa.gov.uk/cym/a-sense-of-place/history-of-snowdonia/plas-tan-y-bwlch-history www.eryri-npa.gov.uk - Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri;] adalwyd 2015</ref>
 
Yn 'Cliffe House', ger [[Atherstone]], ([[Swydd Gaerloyw]]) y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser.<ref>Gweler Cyfrifiad 1881 - Cliff House, Twycross, Leicester (RG11 3134/129 Tud 2) Gwaith: ''Landed Proprietor''</ref>
 
Bu farw ar 1 chwefror 1912 a'i gladdu ar 6 Chwefror. Cofnodwyd hyn y ''Times'' lle disgrifir ei angladd yn [[Eglwys Sant Twrog, Maentwrog]] ac fel y cludwyd ei arch o 'Cliffe House' i Flaenau Ffestiniog ar y tren ac oddi yno i Faentwrog mewn lori. Cerddodd cannoedd o chwarelwyr y tu ôl i'r lori.<ref>''[[The Times]]'', 5 Chwefror 1912:
:''"Oakeley. - On the 1st. Feb., at Cliff House, near Atherstone, William Edward Oakeley, in his 84th year. No flowers."''</ref>
 
===Edward de Clifford Oakeley ===
Ef oedd y perchennog rhwng 1912-1915. Afradodd [[Edward de Clifford]] lawer o arian y teulu drwy fetio a phartïo yn Llundain. Honnir iddo unwaith wario £50,000 ar un bet, (£3 miliwn heddiw). Etifeddodd y Plas a’r stâd ar ochr ogleddol yr afon; etifeddwyd y tir i’r de gan ei chwaer, Mary Caroline.
 
Erbyn 1915 roedd wedi gwerthu ei stâd i’w nith Margaret Inge am £25,000. Gydag arian adawyd iddi gan ei thad mae’n debyg, talodd Margaret hefyd y £40,000 o forgeisi dyledus. Bu farw Edward yn ddi-briod ym 1919 gan adael swm o £88,000.
 
===Mary "Inge" Oakeley ()===
Bu'n berchennog y Plas rhwng 1912-1961. Priododd ŵr cyfoethog o’r enw William Frederick Inge o Thorpe Hall ger [[Tamworth]] ym 1893. 10 mlynedd yn ddiweddarach, canfuwyd William wedi crogi'i hun yng nghartref ei deulu; roedd yn dioddef o salwch meddwl etifeddol. Roedd Mary felly'n wraig weddw pan etifeddodd ei rhan o’r stâd gan ei thad.
 
Cawsant dri phlentyn: Margaret, Hilda ac Edith. Roedd Edith yn dioddef o salwch meddwl y teulu Inge a threuliodd y rhan fwyaf o'i hoes mewn ysbyty meddwl. Rheolwyd y stâd gan Hilda am y 30 mlynedd nes iddi farw'n ddibriod ym 1953 gan adael rhan ogleddol y stâd i’w mam a oedd felly yn berchen ar y cyfan.
 
Yn ystod y [[1920au]] a’r [[1930au|30au]] bu Mrs Inge yn magu [[Merlyn mynydd Cymreig|merlod Cymreig]] Tan y Bwlch, er mwyn cael merlod i’r plant eu marchogaeth. Daeth ei stablau i fod yn bwysig iawn yn y cyfnod. Helpodd merlod Tan y Bwlch sefydlu’r '[[Stablau Coed Coch]]' byd enwog yn [[Abergele]] a oedd yn eiddo i’r diweddar Miss Broderick MBE.
 
Wedi marwolaeth Mary Inge, etifeddwyd y stâd gan y teulu Russell ond fe’u gorfodwyd i werthu ym 1962 oherwydd tollau marwolaeth. Prynwyd y stâd gan un o aelodau teulu blawd a phorthiant Bibby o Lerpwl gyda’r bwriad o agor Clwb Gwledig ac mae’r bythynnod gwyliau ar dir y Plas yn dyst o’r bwriad hwnnw.
 
==Heddiw==
Yn 2015 dathlwyd 40 mlynedd ers ei sefydlu fel Canolfan i'r Parc Cenedlaethol a lansiwyd llyfr fel rhan o'r dathliadau: ''Hanes Plas Tan y Bwlch'' gan Merfyn Williams, un o gyn-benaethiaid y Ganolfan a chyn-ddarlithydd ym Mhlas Tan y Bwlch, [[Twm Elias]]. Ers 1975, mae o leiaf hanner can mil o oedolion a thros 100,000 o blant wedi ymweld â'r Plas ar gyrsiau, cynadleddau a darlithoedd er wmyn astudio a deall mwy am gefn gwlad, yn gallu gwerthfawrogi cefn gwlad ac yn parchu’r amgylchedd. Mae'r Plas hefyd yn cael ei ddefnyddio gan:
Ym 1969 prynwyd y tŷ a'r gerddi gan Gyngor [[Sir Feirionnydd|Sir Meirionnydd]].
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Adeiladau rhestredig Gradd II* Gwynedd]]