Christopher Wren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Christopher Wren by Godfrey Kneller 1711.jpg|bawd|dde|Portread o Christopher Wren gan [[Godfrey Kneller]]]]
 
[[Pensaer]] enwog oedd '''Syr Christopher Wren''' ([[20 Hydref]] [[1632]] – [[25 Chwefror]] [[1723]]). Ei waith enwocaf yw [[Eglwys Gadeiriol Sant Paul]] yn [[Llundain]]. Cynlluniodd oddeutu 52 o eglwysi yn [[Dinas Llundain|Ninas Llundain]] yn dilyn [[Tân Mawr Llundain]] yn 1666, a chaiff ei gyfrif ymhlith pensaeri mwyaf Lloegr.<ref>{{cite web |url=http://www.answers.com/sir%20christopher%20wren |title=Wren, Sir Christopher: Biography from Answers.com |publisher=www.answers.com |accessdate=6 Medi 2009}}</ref>
 
Ystyrir y [[Coleg Morwrol Brenhinol, Greenwich]] hefyd ymhlith ei waith enwocaf a [[Palas Hampton Court|Phalas Hampton Court]].
 
Fe'i traethwyd mewn [[Lladin]] a gwaith [[Aristotel]] ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] lle astudiodd hefyd [[anatomeg]], [[seryddiaeth]], [[mathemateg]] ac, wrth gwrs, [[pensaerniaeth]]. Canmolwyd ei waith gwyddonol gan [[Isaac Newton]] a [[Blaise Pascal]].
 
==Plentyndod==
Fe'i ganed yn [[East Knoyle]] yn [[Swydd Wiltshire]], yn unig fab a oroesodd ei blentyndod; roedd ei dad o'r un enw: Christopher Wren (1589–1658) yn [[offeiriad]] ac enw ei fam oedd Mary Cox cyn iddi briodi. Pan aned Christopher ar [[20 Hydref]] [[1632]] ({{Years or months ago|1632|9}}), roedd ei dad yn offeiriad yn East Knoyle, cyn iddo gael ei ddyrchafu'n Ddeon Windsor yn 1635. Pan fu farw tad ei fam, etifeddodd y teulu cryn dipyn o arian.<ref name="history.wiltshire.gov.uk">{{cite web|url=http://history.wiltshire.gov.uk/community/getfaq.php?id=131 |title=Wiltshire Council – Wiltshire Community History Get Wiltshire History Question Information |publisher=History.wiltshire.gov.uk |date=17 May 2003 |accessdate=15 June 2013}}</ref>
 
Fe'i addysgwyd gartref gan ei dad a chan diwtor preifat. Ar 25 Mehefin 1650, cychwynodd ei addysg yng [[Coleg Wadham, Rhydychen|Ngholeg Wadham, Rhydychen]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}