Cwaternaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
{{Quaternary (period)}}
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Quaternary (period)}}
{{Geological period |from=2.588 |middle=11 |to=Present |image=|o2=20.8 |co2=250 |temp=14 |timeline=off}}
Mae’r '''cyfnod Cwaternaidd''' yn cwmpasu’r 2.6 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Mae tuedd i oeri wedi bodoli yn ystod y cyfnod Cwaternaidd sy’n esbonio pam mae’r moroedd 18°C yn oerach heddiw nag ar unrhyw amser arall yn y cyfnod [[Cainosöig]]. Mae cylchrediadau o gyfnodau rhewlifol a rhyngrewlifol wedi bodoli trwy gydol y cyfnod Cwaternaidd. Gellir cynhyrchu cofnodion o [[newid hinsawdd|newidiadau hinsoddol]] y cyfnod Cwaternaidd trwy edrych ar greiddiau yn y môr, mewn llynnoedd, iâ a chwrelau.
 
Llinell 7 ⟶ 6:
 
Gellir cynhyrchu cofnodion o newidiadau hinsoddol y cyfnod Cwaternaidd yn yr amgylcheddau daearol a morol trwy edrych ar greiddiau yn y môr, iâ a gwaddodion llynnoedd. Unwaith y tynnir y creiddiau allan gellir defnyddio nifer o dechnegau gwahanol megis dadansoddi’r isotop ocsigen i ddyddio’r gwaddod gan greu cofnod o’r newid hinsawdd sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod Cwaternaidd.
{{Geological period |from=2.588 |middle=11 |to=Present |image=|o2=20.8 |co2=250 |temp=14 |timeline=off}}
 
Mae rhai cyfnodau yn y cyfnod Cwaternaidd sy’n amlygu eu hunain gan eu bod naill ai yn fwy eithafol neu wedi parhau am fwy o amser. Gwelir y ddwy esiampl agosaf i’r hinsawdd sydd gennym heddiw mewn cyfnodau rhyngrewlifol sef rhwng 420 a 390 mil o flynyddoedd yn ôl (cyfnod isotop ocsigen 11), a rhwng 130 a 115 mil o flynyddoedd yn ôl (cyfnod isotop ocsigen 5) sydd hefyd yn cael ei alw yn Eamaidd. Cyfnod arall amlwg yw’r cyfnod rhwng 20 a 80 mil o flynyddoedd yn ôl a oedd yn cynnwys digwyddiadau Heinrich sef bod nifer o fynyddoedd iâ yn ymddangos yn y cefnforoedd gan greu amodau oerach yn y pen draw oherwydd bod meintiau enfawr o ddŵr glân yn mynd i mewn i’r môr ac yn amharu ar gylchrediad y moroedd. Roedd y cyfnod rhewlifol diwethaf ar ei anterth tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyfnod arall yw’r [[cyfnod cynnes yr Oesoedd Canol|cynhesu]] a ddigwyddodd yn ystod yr [[Oesoedd Canol]] rhwng [[900]] O.C. a [[1400]] O.C. a’r [[oes iâ fach]] rhwng [[1550]] O.C. a [[1850]] O.C.