Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
map 1573 LlGC
map daeareg
Llinell 85:
== Gwleidyddiaeth ==
{{prif|Gwleidyddiaeth Cymru|Llywodraeth Cymru}}
[[Delwedd:Arwyddlun CCC.png|bawd|chwith|Logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru]]
[[Delwedd:Llywodraeth.jpg|bawd|chwith|Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru]]
 
Rheolid Cymru yn wreiddiol gan frenhinoedd neu dywysogion Cymreig annibynnol neu led-annibynnol megis [[Rhodri Mawr]], [[Llywelyn Fawr]], a'i ŵyr [[Llywelyn ein Llyw Olaf]], a fabwysiadodd y teitl [[Tywysog Cymru]] ym [[1258]]: cydnabuwyd hyn gan Frenin Lloegr ym [[1277]] yn unol â [[Cytundeb Aberconwy|Chytundeb Aberconwy]]. Ar ôl goresgyn [[Tywysogaeth Cymru|tywysogaeth Llywelyn]] gan [[Edward I o Loegr]], mynegwyd y dyhead am annibyniaeth i Gymru yn y [[14eg ganrif]] gan nifer o wrthryfeloedd bychain. Y gwrthryfel mwyaf oedd gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]] a ddechreuodd ym [[1400]]. Curodd gwŷr Glyndŵr lu Seisnig ger [[Pumlumon]] ym [[1401]]. Cafodd Glyndŵr ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ag edrychodd am gymorth gan y [[Ffrainc|Ffrancwyr]], ond erbyn [[1409]] roedd gafael y lluoedd Seisnig ar y wlad yn rhy gryf a dirwynodd y gwrthryfel i ben.
[[Delwedd:Geologic map Wales & SW England CY.svg|bawd|Map o ddaeareg Cymru]]
 
Roedd gweddill y [[15fed ganrif]] yn bur ansefydlog hefyd. Ochrai'r rhan fwyaf o'r Cymry â phlaid y [[Lancastriaid]] yn ystod [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]]. Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth [[Harri VII o Loegr|Harri Tudur]] ym [[Brwydr Bosworth|Mrwydr Bosworth]] yn [[1485]]; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri'r brenin [[Rhisiart III o Loegr|Rhisiart III]] a chipiodd goron Lloegr gan gychwyn [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].