Trawsblannu organau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
n
Llinell 2:
'''Trawsblannu organau''' yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o [[organau dynol|organau]] anifail neu ddyn o'r 'rhoddwr (''doner'') i'r 'derbynydd', fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu [[meinwe]] hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae trawsblannu organau'n un o'r meysydd mwyaf blaengar a chynhyrfus o fewn [[meddygaeth]], yn enwedig y defnydd o had gelloedd a'r frwydr yn erbyn imiwnedd y corff sydd, yn aml, yn dechrau ymladd yn erbyn yr organ newydd, gan ei wrthod, fel pe tae'n germ estron.<ref>{{cite journal |doi=10.1093/ndt/16.2.355 |author=Frohn C, Fricke L, Puchta JC, Kirchner H |title=''The effect of HLA-C matching on acute renal transplant rejection |journal=Nephrol. Dial. Transplant.'' |volume=16 |issue=2 |pages=355–60 |date=February 2001 |pmid=11158412 |url=http://ndt.oxfordjournals.org/cgi/content/full/16/2/355}}</ref> Mewn rhai gwledydd mae prynu a gwerthu organau ar y farchnad ddu yn broblem enfawr.<ref>Gweler [http://www.who.int/bulletin/volumes/82/9/feature0904/en/index.html am ragor o fanylion]; Gwefan WHO; Teitl y rhan berthnasol: ''Bulletin of the World Health Organization''; ''Organ trafficking and transplantation pose new challenges''; adalwyd 22 Tachwedd 2015.</ref>
 
Mae'n bosibl i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw [[had gell|had gelloedd]] person sy'n dioddef o [[lwcimia]] mewn [[labordy]], dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy [[radiotherapi]] a [[cimotherapi]] ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn ''autograft'' a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn ''allograft''. Gall trawsblaniad o'r math hwn (''allograft'') olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw, a gall yr organ neu'r feinwe gael ei gynaeafu (neu ei dynnu) o gorff y person hyd at 24 awr wedi i'w galon beidio a churo.<ref>{{Cite journal | last1 = Manara | first1 = A. R. | last2 = Murphy | first2 = P. G. | last3 = O'Callaghan | first3 = G. | title = Donation after circulatory death | doi = 10.1093/bja/aer357 | journal = ''British Journal of Anaesthesia'' | volume = 108 | pages = i108–i121 | year = 2011 | pmid = 22194426 | pmc = }}</ref> Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]] basio bil ([[Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013]]) sy'n caniatáu i [[ysbytu]] ddefnyddio organnauorganau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar [[1 Rhagfyr]] [[2015]].
[[Delwedd:Prif organnau dynol Major human organs.svg|bawd|chwith|320px|Y prif organau dynol]]
 
Heb drawsblaniadau organau, byddai llawer o bobl yn marw. Gelwir y weithred o drawsblannu organnauorganau o un rhywogaeth i rywogaeth arall yn "Senotrawsblaniad".<ref>[http://law.gov.wales/publicservices/health-services/health-services/organ-donation?skip=1&lang=cy#/publicservices/health-services/health-services/organ-donation?tab=overview&lang=cy Gwefan Llywodraeth Cymru;] Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; Nodyn: Yn 2006, diffiniodd yr Adran Iechyd senotrawsblaniad fel: ''"any procedure that involves the transplantation, implantation, or infusion into a human recipient of either live tissues or organs retrieved from animals, or, human body fluids, cells, tissue or organs that have undergone ex vivo contact with live non-human animal cells tissues or organs."''; adalwyd 22 Tachwedd 2015</ref>
 
Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw [[aren]]nau, [[y galon]], [[yr iau]], [[yr ysgyfaint]], [[y pancreas]] a'r [[coluddyn bach]].