Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llanyblodwel
llyfrau a Daeth Nadolig
Llinell 27:
 
===Caneuon y plygain===
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]], [[Jonathan Huws]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].<ref>[https://caneuongwerin.wordpress.com/2013/12/22/daeth-nadolig/ Caneuon Gwerin;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.
 
;Enghraifft; ''Daeth Nadolig'' (ar hen alaw werin ''Deio Bach'')
 
:Daeth Nadolig fel arferol,
:Daeth fel yn y dyddiau gynt,
:Gyda’i eira, gyda’i oerni,
:Gyda’i rew a’i ruol wynt.
:Yn lle dail i drwsio’r goedwig,
:Gwisgr hi â hugan gwyn,
:Ac mae miwsig pob aderyn
:Wedi darfod yn y glyn.
 
:Daeth Nadolig fel arferol,
:Mewn tawelwch mae y byd,
:Wrth i ninau gofio’r stori
:Am y baban yn ei grud,
:Cofio am y seren ddisglair,
:Cofio am y preseb tlawd,
:Cofio’r engyl yn cyhoeddi
:Geni Duw mewn gwisg o gnawd.
 
:Daeth Nadolig fel arferol
:Ac mae miswig ym mhob man,
:Miwsig rhai yn mynd i Blygain,
:Miwsig peraidd glychau’r llan,
:Rhaid i ninnau gyda’r doethion
:A’r bugeiliaid i gael trem
:Ar yr hwn sydd wedi’i eni
:Draw ym mhreseb Bethlehem.
 
:Gorfoleddwn a moliannwn,
:Ganwyd Ceidwad mawr y byd,
:Cyfaill pechaduriad mawrion
:Ydyw Iesu Grist o hyd,
:Brenin heddwch ydyw’r Iesu
:A thangnefedd ar ei wedd,
:Dyma frenin y brenhinoedd
:Ddysgodd inni gladdu’r cledd.
 
== Canu plygain heddiw ==
Llinell 43 ⟶ 81:
* [[Darowen]]
* Lloc (Sir Fflint)
 
==Casgliadau o ganeuon ==
* ''Welsh Folk Customs'', [[Trefor M. Owen]]; 1959, tud. 28-33
* ''Hen Garolau Cymru'', [[Arfon Gwilym]] a [[Sioned Webb]] (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
*''Cadw Gŵyl: Llawlyfr i’r Traddodiad Plygain, Bwrdd Cenhadau’r Eglwys yng Nghymru, 2000''; [[Enid R Morgan]] (Gol.)
*''Hen Garolau Cymru'', Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
*''Yn Dyrfa Weddus: Carolau Ar Gyfer Y Plygain'', [[Rhiannon Ifans]] (Gol.); Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003
*''Hen Garolau'', [[Geraint Vaughan-Jones]] (Gol.), Y Lolfa, 1987
*''Mwy o Garolau Plygain'', Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1992
 
 
==Dolenni allanol==