Henry Hussey Vivian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 19:
[[File:Henry Hussey Vivian.JPG|thumb|chwith|Cerflyn Barwn Abertawe yn Abertawe]]Vivian oedd cadeirydd cyntaf [[Cyngor Sir Forgannwg]] ac fe fu'n gwasanaethu fel [[Aelod Seneddol]] mewn tair etholaeth. Fe'i etholwyd gyntaf yn AS dros [[Truro (etholaeth seneddol)|Truro]] yng [[Cernyw|Nghernyw]]. (Bu ei frawd [[Arthur Vivian]] hefyd yn AS Rhyddfrydol yng Nghernyw). Gwasanaethodd fel AS Truro o 1852 i 1857.
 
Yn etholiad cyffredinol 1857 fe safodd yn etholaeth [[Sir Forgannwg (etholaeth seneddol)|Sir Forgannwg]] gan gipio'r ail o ddwy sedd yr etholaeth i'r Rhyddfrydwyr a chadw'r sedd hyd iddi gael ei ddiddymu ym 1885.
 
Ym 1885 safodd Vivian yn llwyddiannus yn etholaeth [[Dosbarth Abertawe (etholaeth Seneddol)|Dosbarth Abertawe]] (hen sedd ei dad). Cafodd ei ddyrchafu'n Farwnig ym 1882<ref>A BARONETCY FOR MR. H. HUSSEY VIVIAN, M.P. LLGC Papurau Cymru arlein Cambrian 28 Ebrill 1882 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3336239/ART27] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref> ac yna'n Farwn ym 1893; fel barwn yr oedd yn cael sedd yn [[Tŷ'r Arglwyddi|Nhŷ'r Arglwyddi]] a bu'n rhaid iddo ildio ei sedd yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]].