Henry Hussey Vivian

diwydiannwr ac arbenigwr mewn gweithio meteloedd a mwynau

Roedd Henry Hussey Vivian, Barwn 1af Abertawe (6 Gorffennaf 182128 Tachwedd 1894) yn ddiwydiannwr yn arbenigwr mewn gweithio meteloedd a mwynau, yn wleidydd Ryddfrydol Gymreig ac yn Aelod Seneddol.[1]

Henry Hussey Vivian
Ganwyd6 Gorffennaf 1821 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1894 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata
TadJohn Henry Vivian Edit this on Wikidata
MamSarah Jones Edit this on Wikidata
PriodJessie Dalrymple Goddard, Flora Caroline Elizabeth Cholmeley, Averil Beaumont Edit this on Wikidata
PlantErnest Vivian, Odo Richard Vivian, John Aubrey Vivian, Violet Averil Margaret Vivian, Henry Hussey Vivian, Averil Vivian, Alberta Diana Vivian, Alexandra Gladys Vivian Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Henry Hussey Vivian yn Abertawe, yn fab i John Henry Vivian, perchennog cwmni copr ac aelod seneddol dros Dosbarth Abertawe rhwng 1832 a 1855, a Sarah, (née Jones) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, bu hefyd yn astudio dulliau o drin metelau yn Ffrainc a'r Almaen.

Bu'n briod teirgwaith. Priododd ei wraig gyntaf Jessie Dalrymple Goddard (1825-1848) ym 1848, roedd hin ferch i Ambrose Goddard o Swindon. Bu Jessie farw o broblemau yn deillio o esgor eu hunig blentyn Ernest Ambrose Vivian, Ail Farwn Abertawe.

Ar 14 Gorffennaf 1853 Priododd Vivian a'r Ledi Flora Caroline Elizabeth Cholmeley merch Syr Montague Cholmeley. Bu iddynt un mab Yr Anrhydeddus John Aubrey Vivian (1854 - 1898). Bu farw Flora ym 1868.

Priododd ei drydedd wraig ym 1870. Roedd Averil Beaumont (1841 - 1934), yn ferch i'r Capten Richard Beaumont ac yn wyres i'r 3ydd Barwn Macdonald o Slate. Bu chwe phlentyn o'r briodas gan gynnwys Odo Richard Vivian, 3ydd Barwn Abertawe.

Gyrfa golygu

Ar ôl ymadael a'r coleg aeth i Lerpwl i reoli cangen Lerpwl y busnes toddi copr Vivian & Sons a sefydlwyd gan ei daid. Dair blynedd yn ddiweddarach daeth yn bartner yn y cwmni cyn ddychwelyd i Abertawe i reoli'r Gwaith yr Hafod. Ar ôl farwolaeth ei dad ym 1855 daeth yn rheolwr ar y cwmni. Bu yn arloesol iawn mewn datblygu ystod eang o sgil-gynhyrchion o gopr a metelau eraill gan dynnu allan nifer o drwyddedau patent ar ffurf i drin mwynion a metelau a thrwy ei ymdrechion daeth Abertawe yn un o brif ganolfannau ymchwil meteleg y byd.

Gyrfa Wleidyddol golygu

 
Cerflyn Barwn Abertawe yn Abertawe

Vivian oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Sir Forgannwg ac fe fu'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol mewn tair etholaeth. Fe'i etholwyd gyntaf yn AS dros Truro yng Nghernyw. (Bu ei frawd Arthur Vivian hefyd yn AS Rhyddfrydol yng Nghernyw). Gwasanaethodd fel AS Truro o 1852 i 1857.

Yn etholiad cyffredinol 1857 fe safodd yn etholaeth Sir Forgannwg gan gipio'r ail o ddwy sedd yr etholaeth i'r Rhyddfrydwyr a chadw'r sedd hyd iddi gael ei ddiddymu ym 1885.

Ym 1885 safodd Vivian yn llwyddiannus yn etholaeth Dosbarth Abertawe (hen sedd ei dad). Cafodd ei ddyrchafu'n Farwnig ym 1882[2] ac yna'n Farwn ym 1893; fel barwn roedd yn cael sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi a bu'n rhaid iddo ildio ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref ym Mharc Singleton, Abertawe 28 Tachwedd, 1894, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys y Sgeti, Abertawe.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. VIVIAN, HENRY HUSSEY Y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 20 Rhag 2014
  2. A BARONETCY FOR MR. H. HUSSEY VIVIAN, M.P. LLGC Papurau Cymru arlein Cambrian 28 Ebrill 1882 [2] adalwyd 20 Rhagfyr 2014
  3. MARWOLAETH ARGLWYDD ABERTAWE LLGC Papurau Cymru arlein Tarian Y Gweithiwr 6 Rhagfyr 1894 [3] adalwyd 20 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Ennis Vivian Humphrey Willyams
Aelod Seneddol dros Truro
18521857
Olynydd:
Augustus Smith Edward Brydges Willyams
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Christopher Rice Mansel Talbot
Syr George Tyler
Aelod Seneddol dros Sir Forgannwg
18571865
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Lewis Llewelyn Dillwyn
Aelod Seneddol dros Dosbarth Abertawe
18851893
Olynydd:
William Williams