Hela: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfeiriadau: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|eo}} using AWB
ehangu
Llinell 6:
 
[[Pysgota]] yw'r term a ddefnyddir ar gyfer yr erlid o [[pysgod|bysgod]], a ni gaiff ei gategoreiddio fel hela yn gyffredin.
 
==Yr Oesoedd Canol==
Sonia [[Beirdd yr Uchelwyr]] yn aml iawn am hela, ac felly hefyd y [[Cyfraith Hywel Dda|y cyfreithiau Cymreig]]. Nodir yr anifeiliaid canlynol yn aml: y carw coch, yr iwrch, y baedd gwyllt, y llwynog, y dyfrgi, y crëyr, aderyn y bwn, y gylfinir, yr aran a gwenyn. Câi unrhyw un ddal y llwynog, y dyfrgi a’r iwrch a chadw gwenyn. Yn [[Y Naw Helwriaeth]], sef testun a luniwyd tua chanol yr [[16eg ganrif]] sy’n crybwyll y carw, yr iwrch, yr ysgyfarnog, y llwynog, y dringhedydd (sef y gath goed, y ffwlbart neu’r wiwer), y ceiliog coed (sef ffesant neu geiliog du'r mynydd, o bosibl, neu 'aderyn helwriaeth' yn gyffredinol), eogiaid, gwenyn, baeddod gwyllt ac eirth, er bod yr anifeiliaid hyn wedi diflannu o wledydd Prydain. [http://www.gutorglyn.net/gutoswales/diddordebau-hela-anifeiliaid.php] adalwyd 21 Rhagfyr 2015</ref>
 
Roedd sawl dull hela, nid yn unig ymlid gan [[Ci hela Cymreig|helgwn]] a saethu gyda [[bwa]] ond hefyd drwy ddefnyddio rhwyd rawn (rhawn yw blew ceffyl). Er i r gael eu defnyddio weithiau ar gyfer dal anifeiliaid mawr fel y ceirw a'r baedd gwyllt yn ogystal â chreaduriaid bach fel pysgod, adar, cwningod ac ysgyfarnogod, ystyrid defnyddio rhwyd yn ddull 'dianrhydded' gan rai. Ceid dulliau hela mwy 'gwerinol a chanodd [[Maredudd ap Rhys]] gerddi gofyn a diolch am rwyd bysgota. Canodd [[Gruffudd ap Maredudd]] at y defnydd o dryfer i ddal eog ifanc (neu 'gleisiad'), a chrybwyllodd yr Ustus Llwyd at y defnydd o rwydi ddal dyfrast. Roedd sawl dull o hela adar, fel y gwelir yng nghywydd [[Dafydd ap Gwilym]], 'Ymddiddan â'r Cyffylog', sef drwy eu saethu, eu dal mewn magl ac, efallai, eu gyrru i fan agored neu lannerch mewn coed, fel y gellid eu dal mewn rhwydi.
 
O'r holl anifeiliaid, yr hydd, oedd yr anifail hela uchaf ei fri, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi'r cyfnod. Sonia [[Guto’r Glyn]] mewn cerdd i ofyn am walch fod Deon Bangor, Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, yn mwynhau hela hydd (cerdd 60.38).
 
==Gweler hefyd==
* [[Y Ci hela Cymreig]]
* [[Daeargi Cymreig]]
* [[Daeargi Sealyham]]
* [[Sbaengi hela Cymreig]]
 
== Cyfeiriadau ==