George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 30:
 
== Gyrfa Wleidyddol ==
Roedd yr Iarll Plunkett yn cefnogi plaid genedlaethol [[Charles Stewart Parnell]], ''The Irish National League'' a safodd fel ymgeisydd i'r blaid ar dri achlysur. Safodd yn etholaeth Canol Tyrone yn etholiad Genedlaethol 1892 gan ddod ar waelod y pôl gyda 1.9% o'r bleidlais. Daeth yn agos i lwyddiant yn etholaeth St Stephen's Green Dulyn, a ymladdodd yn aflwyddiannus fel yr unig ymgeisydd cenedlaetholgar yn etholiad cyffredinol 1895 ac mewn isetholiad yn 1898 gan dorri mwyafrif yr Unoliaethwyr i 138 o bleidleisiau<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3685007|title=Etholiad Dublin - Y Llan|date=1898-01-28|accessdate=2016-03-21|publisher=J. Morris}}</ref>. Galluogodd ei waith yn yr etholaeth i'r blaid genedlaethol unedig [[Y Blaid Seneddol Wyddelig]] i gipio'r sedd ym 1900.<ref>Parliamentary Election Results in Ireland, 1801–1922, gol B.M. Walker (Royal Irish Academy 1978)</ref>
 
Er ei fod wedi sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad doedd o ddim yn cael ei hystyried yn genedlaetholwr amlwg. Roedd ei ddiddordebau pennaf yn hyrwyddo'r celfyddydau. Roedd yn gwasanaethu Academi Brenhinol Iwerddon fel is lywydd ym 1907-8 ac eto o 1911 i 1914. Roedd yn aelod o banel dyfarnu [[Gwobr Llenyddiaeth Nobel]], yn Aelod o Gymdeithas Sbaenaidd yr UDA. Roedd yn un o sefydlwyr Academi Genedlaethol Iwerddon, yn llywydd Cymdeithas Cadwraeth yr Iaith Wyddelig ac fe fu yn is-lywydd Gymdeithas Lenyddol Iwerddon, Cymdeithas Clasurol Iwerddon, Y Gyngres Geltaidd a Chyngres Rhyngwladol y Celfyddydau ac yn aelod o Gymdeithas Frenhinol Dulyn.<ref name=":0" />
 
Trechwyd y Gwrthryfel, cafodd Joseff ei ddienyddio, a chafodd dau fab arall yr Iarll eu dedfrydu i farwolaeth cyn i'r dyfarniad cael ei gymudo i ddeng mlynedd o garchar efo llafur caled. Er na wyddai'r awdurdodau am ei genhadaeth dros y frawdoliaeth, penderfynodd yr awdurdodau i drin teuluoedd y gwrthryfelwyr yn hallt. Collodd yr Iarll ei swydd, cafodd ei ddiarddel o Gymdeithas Frenhinol Dulyn a chafodd ef a'r Iarlles eu halltudio i Rydychen; llwyddodd y ffordd triniwyd ef a'i deulu i'w radacaleiddio a fu'n gweriniaethwr brwd a phybyr am weddill ei oes. <ref>Gallway Advertiser A young girl carried the scars of war [http://www.advertiser.ie/galway/article/78914/a-young-girl-carried-the-scars-of-war] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>
 
Ym mis Rhagfyr 1916 bu farw James O'Kelly [[AS]] Gogledd Roscommon ac enwebwyd yr Iarll i sefyll yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo, dychwelodd i'r Iwerddon yn anghyfreithlon ar 31 Ionawr, ac enillodd y sedd yn hawdd tri diwrnod yn ddiweddarach. Cyhoeddodd y byddai'n ymatal rhag mynychu Senedd [[San Steffan]], cyhoeddwyd ei resymeg mewn llyfryn ''Count Plunkett: the man and his message'' gan Louis George Reddy (a'r gael i'w ddarllen ar lein.<ref>Internet Archive [https://archive.org/stream/countplunkettman00redd#page/n0/mode/2up] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>). Sefydlodd Cynghrair Rhyddid i geisio sefydlu gweriniaeth arfaethedig 1916 trwy ymataliaeth, a chynhaliwyd cyfarfod a sefydlodd ffrynt eang rhwng ei gynghrair a grwpiau o genedlaetholwr mwy radical megis [[Sinn Féin]]. Ym mis Hydref daeth y ffrynt yn blaid, gan ddefnyddio'r enw Sinn Féin. Bu penderfyniad Plunkett yn un bellgyrhaeddol, gwrthododd y 73 o aelodau Sinn Féin a etholwyd yn etholiad cyffredinol 1918 i gymryd ei seddau ac i eistedd fel senedd yr Iwerddon; ac nid yw ASau Sinn Féin o [[Gogledd Iwerddon|Ogledd Iwerddon]] yn derbyn eu seddau seneddol hyd heddiw.<ref name=":1" />
 
Ar 18 Mai 1918 cafodd Plunkett ei ddalgadw eto. Cafodd ei ryddhau wedi tirlithriad Sinn Féin yn yr etholiad cyffredinol<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4426335|title=COUNT PLUNKETT FREE - The Cambria Daily Leader|date=1919-01-01|accessdate=2016-03-21|publisher=Frederick Wicks}}</ref>. Ar 17 Ionawr 1919 bu'n llywyddu dros gyfarfod i gynllunio ar gyfer y senedd weriniaethol, [[Dáil Éireann]], ac yn y sesiwn agoriadol y Dáil ar y 21ain. Y diwrnod olynol penodwyd ef yn weinidog dros faterion tramor gan Cathal Brugha yn ei gabinet dros dro, penodiad a gafodd ei gadarnhau gan [[Eamonn de Valera]] ar 10 Ebrill. Ar 26 Awst penodwyd Plunkett yn weinidog y celfyddydau, swydd y tu allan i'r cabinet.
 
Fel gweinidog y celfyddydau bu'n paratoi dathliad i gofio chwe chanmlwyddiant marwolaeth [[Dante Alighieri]], ond cafodd y paratoadau eu cysgodi gan gyhoeddi'r cytundeb gyda Phrydain oedd am rannu'r Iwerddon. Bu Plunkett yn wrthwynebydd i'r cytundeb gan ddweud ''nad dros Iwerddon ranedig y bu farw fy mab''. Cadeiriodd y blaid wrth gytundeb, Cumman na Poblachta, a chafodd ei drechu yn yr etholiad cyffredinol mis Mehefin 1922.
 
Am ei wrthwynebiad i'r cytundeb cafodd Plunkett ei ddalgadw gan Lywodraeth Iwerddon gan gael ei ryddhau ym mis Rhagfyr 1923.
 
==Marwolaeth==