George Noble Plunkett
Roedd George Noble Plunkett, Iarll Plunkett (An Cunta Pluincéid); yn y bendefigaeth Pabaidd (3 Rhagfyr 1851 – 12 Mawrth 1948) yn hanesydd celf, yn wleidydd Gwyddelig gweriniaethol ac yn dad i Seosamh Máire Pluincéid un o ferthyron Gwrthryfel y Pasg.[1][2]
George Noble Plunkett | |
---|---|
Ganwyd | George Noble Plunkett 3 Rhagfyr 1851 Dulyn |
Bu farw | 12 Mawrth 1948 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd, bargyfreithiwr, hanesydd celf |
Swydd | Gweinidog Materion Tramor a Masnach, Ceann Comhairle, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála |
Plaid Wleidyddol | Sinn Féin, Fianna Fáil |
Plant | Geraldine Plunkett Dillon, Seosamh Máire Pluincéid, Fiona Plunkett, George Oliver Plunkett |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Beddrod Sanctaidd, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Cefndir
golyguGanwyd Plunkett ar 3 Rhagfyr 1851 yn 1 Heol Aungier, Dulyn, yr ieuengaf o dri o blant Patrick Joseph Plunkett a'i wraig, Elizabeth, née Noble. George oedd yr unig un o'r tri phlentyn i fyw i dyfu'n oedolyn. Roedd y tad yn adeiladwr llwyddiannus a goludog ac yn gynghorydd dosbarth trefol. Roedd y teulu yn disgyn o Iarll cyntaf Fingall ac yn perthyn yn gyfochrog i'r Sant Oliver Plunkett. Roedd y teulu yn Gatholigion Rhufeinig ac yn genedlaetholwyr.
Derbyniodd Plunkett ei addysg gynradd mewn ysgol yn Nice (lle daeth yn rhugl yn y Ffrangeg a'r Eidaleg), Ysgol y Tadau Oblate yn Upper Mount Street, Dulyn (1863-7), Coleg Clongowes Wood, co. Kildare (1867-9), ac o 1872 Prifysgol Dulyn, lle fu'n astudio'r gyfraith. Roedd lwfans hael gan ei dad yn caniatáu iddo bentyrru gwybodaeth am y Dadeni a chelf ganoloesol, wrth ohirio sefyll arholiadau terfynol y gyfraith tan 1884, cafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1886.[3]
Priodas
golyguPriododd Plunkett Josephine Cranny (1858-1944) ar 26 Mehefin 1884. Bu iddynt saith o blant: Philomena (Mimi 1886-1926), Joseph Mary (1887-1916), Mary Josephine (Moya 1889-1928), Geraldine (1891-1986), George Oliver (1894-1944), Josephine Mary Jane (Fiona 1896-1976), a John (Jack 1897-1960). Yn ôl Geraldine doedd yr Iarll a'r Iarlles ddim yn rhieni da, yn amddifadu'r plant o addysg, bwyd a chariad.[4] Yn ei gerdd Witless mae Joseph Plunkett yn crybwyll yr un peth:
When I was but a child
Too innocent and small
To know of aught but love
I knew no love at all
Anrhydeddau
golyguYm 1884 cafodd ei greu'n Iarll Pabaidd gan y Pab Leo XIII am gyfrannu arian ac eiddo i Chwiorydd Mair Fychan, urdd nyrsio Gatholig. Roedd yn Farchog yn Urdd y Bedd Sanctaidd[5] a dyfarnwyd iddo'r anrhydeddau Catholig Croes Sant Ioan o Lateran a Chroes Fawr Seintiau Cyril a Methodius
Gyrfa
golyguAr ei briodas derbyniodd rhodd o dir trefol, daeth ei brif incwm o ddatblygu a rhentu'r tir[6]. Gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol y Gwyddorau a'r Celfyddydau, Dulyn; swydd dan nawdd Llywodraeth Prydain[7] o 1907, hyd ei ddiswyddo am ran ei feibion yn Gwrthryfel y Pasg ym 1916. Ategai at ei incwm trwy ddarlithio ac ysgrifennu.[8]
Cyhoeddiadau
golygu- Of The Jacobite War in Ireland, 1894
- Sandro Botticelli, 1900; ar y cyd a'r Parch Dr Hogan, FRUI,
- Pinelli 1904
- Architecture of Dublin (British Assoc. HB, 1908)
- Golygydd M. Stokes; Early Christian Art in Ireland, 1911–1915
- Arrows (Cyfrol o farddoniaeth) 1921
- Echoes Cyfrol o farddoniaeth 1928
- Introduction to Church Symbolism, 1932
- Art lectures and addresses, 1929–1941
Cyfrannodd lawer o erthyglau i gyfnodolion a chylchgronau Gwyddelig a bu'n olygydd Hibernia, cylchgrawn yn cynnig adolygiad o lenyddiaeth a chelf Dulyn rhwng 1882 a 1883.
Gyrfa wleidyddol
golyguRoedd yr Iarll Plunkett yn cefnogi plaid genedlaethol Charles Stewart Parnell, The Irish National League a safodd fel ymgeisydd i'r blaid ar dri achlysur. Safodd yn etholaeth Canol Tyrone yn etholiad Gyffredinol 1892 gan ddod ar waelod y pôl gyda 1.9% o'r bleidlais. Daeth yn agos i lwyddiant yn etholaeth St Stephen's Green Dulyn, a ymladdodd yn aflwyddiannus fel yr unig ymgeisydd cenedlaetholgar yn etholiad cyffredinol 1895 ac mewn isetholiad yn 1898 gan dorri mwyafrif yr Unoliaethwyr i 138 o bleidleisiau[9]. Galluogodd ei waith yn yr etholaeth i'r blaid genedlaethol unedig Y Blaid Seneddol Wyddelig i gipio'r sedd ym 1900.[10]
Er ei fod wedi sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad doedd o ddim yn cael ei hystyried yn genedlaetholwr amlwg. Roedd ei ddiddordebau pennaf yn hyrwyddo'r celfyddydau. Roedd yn gwasanaethu Academi Brenhinol Iwerddon fel is lywydd ym 1907-8 ac eto o 1911 i 1914. Roedd yn aelod o banel dyfarnu Gwobr Llenyddiaeth Nobel, yn Aelod o Gymdeithas Sbaenaidd yr UDA. Roedd yn un o sefydlwyr Academi Genedlaethol Iwerddon, yn llywydd Cymdeithas Cadwraeth yr Iaith Wyddelig ac fe fu yn is-lywydd Gymdeithas Lenyddol Iwerddon, Cymdeithas Clasurol Iwerddon, Y Gyngres Geltaidd[11] a Chyngres Rhyngwladol y Celfyddydau ac yn aelod o Orsedd y Beirdd[12] a Chymdeithas Frenhinol Dulyn.[8][13]
Trechwyd y Gwrthryfel, cafodd Joseff ei ddienyddio, a chafodd dau fab arall yr Iarll eu dedfrydu i farwolaeth cyn i'r dyfarniad cael ei gymudo i ddeng mlynedd o garchar efo llafur caled. Er na wyddai'r awdurdodau am ei genhadaeth dros y frawdoliaeth, penderfynodd yr awdurdodau i drin teuluoedd y gwrthryfelwyr yn hallt. Collodd yr Iarll ei swydd, cafodd ei ddiarddel o Gymdeithas Frenhinol Dulyn a chafodd ef a'r Iarlles eu halltudio i Rydychen; llwyddodd y ffordd triniwyd ef a'i deulu i'w radacaleiddio a fu'n gweriniaethwr brwd a phybyr am weddill ei oes.[14]
Ym mis Rhagfyr 1916 bu farw James O'Kelly AS Gogledd Roscommon ac enwebwyd yr Iarll i sefyll yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo, dychwelodd i'r Iwerddon yn anghyfreithlon ar 31 Ionawr, ac enillodd y sedd yn hawdd tri diwrnod yn ddiweddarach. Cyhoeddodd y byddai'n ymatal rhag mynychu Senedd San Steffan, cyhoeddwyd ei resymeg mewn llyfryn Count Plunkett: the man and his message gan Louis George Reddy (a'r gael i'w ddarllen ar lein.[15]). Sefydlodd Cynghrair Rhyddid i geisio sefydlu gweriniaeth arfaethedig 1916 trwy ymataliaeth, a chynhaliwyd cyfarfod a sefydlodd ffrynt eang rhwng ei gynghrair a grwpiau o genedlaetholwr mwy radical megis Sinn Féin. Ym mis Hydref daeth y ffrynt yn blaid, gan ddefnyddio'r enw Sinn Féin. Bu penderfyniad Plunkett yn un bellgyrhaeddol, gwrthododd y 73 o aelodau Sinn Féin a etholwyd yn etholiad cyffredinol 1918 i gymryd ei seddau ac i eistedd fel senedd yr Iwerddon; ac nid yw ASau Sinn Féin o Ogledd Iwerddon yn derbyn eu seddau seneddol hyd heddiw.[1]
Ar 18 Mai 1918 cafodd Plunkett ei ddalgadw eto. Cafodd ei ryddhau wedi tirlithriad Sinn Féin yn yr etholiad cyffredinol[16]. Ar 17 Ionawr 1919 bu'n llywyddu dros gyfarfod i gynllunio ar gyfer y senedd weriniaethol, Dáil Éireann, ac yn y sesiwn agoriadol y Dáil ar yr 21ain. Y diwrnod olynol penodwyd ef yn weinidog dros faterion tramor gan Cathal Brugha yn ei gabinet dros dro, penodiad a gafodd ei gadarnhau gan Éamon de Valera ar 10 Ebrill. Ar 26 Awst penodwyd Plunkett yn weinidog y celfyddydau, swydd y tu allan i'r cabinet.
Fel gweinidog y celfyddydau bu'n paratoi dathliad i gofio chwe chanmlwyddiant marwolaeth Dante Alighieri, ond cafodd y paratoadau eu cysgodi gan gyhoeddi'r cytundeb gyda Phrydain oedd am rannu'r Iwerddon. Bu Plunkett yn wrthwynebydd i'r cytundeb gan ddweud nad dros Iwerddon ranedig y bu farw fy mab. Cadeiriodd y blaid wrth gytundeb, Cumman na Poblachta, a chafodd ei drechu yn yr etholiad cyffredinol mis Mehefin 1922.
Am ei wrthwynebiad i'r cytundeb cafodd Plunkett ei ddalgadw gan Lywodraeth Iwerddon gan gael ei ryddhau ym mis Rhagfyr 1923.
Marwolaeth
golyguBu farw Plynkett o gancr a henaint, yn ei gartref, 42 Upper Mount Street, Dulyn yn 96 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion yn llain weriniaethol mynwent Glasnevin, Dulyn, y diwrnod canlynol. Etifeddwyd yr Iarllaeth gan ei ŵyr Joseph Plunkett mab George.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 D. R. O'Connor Lysaght, ‘Plunkett, George Noble, Count Plunkett in the papal nobility (1851–1948)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 20 Mawrth 2016
- ↑ 2.0 2.1 Plunkett, Count George Noble, D. R. O'Connor Lysaght (copi o Erthygl yr ODNB heb yr angen am fynediad Llyfrgell)[1]
- ↑ (Count Plunkett) George Noble Plunkett [2] adalwyd 21 Mawrth 2016
- ↑ Independent.ie 26 Tachwedd 2006 Feeding a great hatred with fervour
- ↑ Urdd y Bedd Sanctaidd IE Notable Irish Members (Historic): George, Count Plunkett [3] Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Mawrth 2016
- ↑ Honor O Brolchain Joseph Plunkett: 16Lives The O'Brien Press 2012 ISBN 1847172695
- ↑ Reddy, Louis George, 1917 t 1 Count Plunkett : the man and his message[4]
- ↑ 8.0 8.1 ‘PLUNKETT, George Noble, Count (Papal hereditary)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 20 March 2016
- ↑ "Etholiad Dublin - Y Llan". J. Morris. 1898-01-28. Cyrchwyd 2016-03-21.
- ↑ Parliamentary Election Results in Ireland, 1801–1922, gol B.M. Walker (Royal Irish Academy 1978)
- ↑ "CELTIC ASSOCIATIONI - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-10-11. Cyrchwyd 2016-03-21.
- ↑ "PAN CELTIC MOVEMENT - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1899-08-15. Cyrchwyd 2016-03-21.
- ↑ "Notitle - Abergavenny Chronicle". Abergavenny Chronicle Ltd. 1917-01-26. Cyrchwyd 2016-03-21.
- ↑ Gallway Advertiser A young girl carried the scars of war [5] adalwyd 20 Mawrth 2016
- ↑ Internet Archive [6] adalwyd 20 Mawrth 2016
- ↑ "COUNT PLUNKETT FREE - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1919-01-01. Cyrchwyd 2016-03-21.