George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 32:
Roedd yr Iarll Plunkett yn cefnogi plaid genedlaethol [[Charles Stewart Parnell]], ''The Irish National League'' a safodd fel ymgeisydd i'r blaid ar dri achlysur. Safodd yn etholaeth Canol Tyrone yn etholiad Genedlaethol 1892 gan ddod ar waelod y pôl gyda 1.9% o'r bleidlais. Daeth yn agos i lwyddiant yn etholaeth St Stephen's Green Dulyn, a ymladdodd yn aflwyddiannus fel yr unig ymgeisydd cenedlaetholgar yn etholiad cyffredinol 1895 ac mewn isetholiad yn 1898 gan dorri mwyafrif yr Unoliaethwyr i 138 o bleidleisiau<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3685007|title=Etholiad Dublin - Y Llan|date=1898-01-28|accessdate=2016-03-21|publisher=J. Morris}}</ref>. Galluogodd ei waith yn yr etholaeth i'r blaid genedlaethol unedig [[Y Blaid Seneddol Wyddelig]] i gipio'r sedd ym 1900.<ref>Parliamentary Election Results in Ireland, 1801–1922, gol B.M. Walker (Royal Irish Academy 1978)</ref>
 
Er ei fod wedi sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad doedd o ddim yn cael ei hystyried yn genedlaetholwr amlwg. Roedd ei ddiddordebau pennaf yn hyrwyddo'r celfyddydau. Roedd yn gwasanaethu Academi Brenhinol Iwerddon fel is lywydd ym 1907-8 ac eto o 1911 i 1914. Roedd yn aelod o banel dyfarnu [[Gwobr Llenyddiaeth Nobel]], yn Aelod o Gymdeithas Sbaenaidd yr UDA. Roedd yn un o sefydlwyr Academi Genedlaethol Iwerddon, yn llywydd Cymdeithas Cadwraeth yr Iaith Wyddelig ac fe fu yn is-lywydd Gymdeithas Lenyddol Iwerddon, Cymdeithas Clasurol Iwerddon, Y Gyngres Geltaidd a Chyngres Rhyngwladol y Celfyddydau ac yn aelod o Gymdeithas[[Gorsedd y Beirdd]]<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3462911|title=PAN CELTIC MOVEMENT - Evening Express|date=1899-08-15|accessdate=2016-03-21|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> a Chymdeithas Frenhinol Dulyn.<ref name=":0" />
 
Trechwyd y Gwrthryfel, cafodd Joseff ei ddienyddio, a chafodd dau fab arall yr Iarll eu dedfrydu i farwolaeth cyn i'r dyfarniad cael ei gymudo i ddeng mlynedd o garchar efo llafur caled. Er na wyddai'r awdurdodau am ei genhadaeth dros y frawdoliaeth, penderfynodd yr awdurdodau i drin teuluoedd y gwrthryfelwyr yn hallt. Collodd yr Iarll ei swydd, cafodd ei ddiarddel o Gymdeithas Frenhinol Dulyn a chafodd ef a'r Iarlles eu halltudio i Rydychen; llwyddodd y ffordd triniwyd ef a'i deulu i'w radacaleiddio a fu'n gweriniaethwr brwd a phybyr am weddill ei oes. <ref>Gallway Advertiser A young girl carried the scars of war [http://www.advertiser.ie/galway/article/78914/a-young-girl-carried-the-scars-of-war] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>