Dydd Sul y Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sillafiad Saunders
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Victory over the Grave.jpg|bawd|Crist yn atgyfodi ar Sul y Pasg]]
'''Dydd Sul y Pasg''' yw'r diwrnod yr atgyfododd [[Iesu Grist]], yn ôl [[Cristnogaeth|Cristnogion]]. [[Croeshoelio|Croeshoeliwyd]] ef ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]] a'r dydd Sul dilynol, ymwelodd ei fam a [[Mair Madlen]] y bedd, gan ei ddarganfod yn wag, yn ôl Ioan. Dywed y disgybl [[Mathew]] fod [[angel]] yn bresenol yn yr ogof. Mae'r diwrnod hwn yn rhan o wythnos y [[Pasg]]. Y Dydd Sul blaenorol yw [[Sul y Blodau]].
 
Dyma diwrnod cyntaf y cyfnod a elwir yn ''Eastertide'' neu ''Paschaltide'' (Tymor y Pasg), gŵyl sy'n parhau tan y [[Sulgwyn]], cyfnod o 7 wythnos. Yr wythnos gyntaf wedi Dydd Sul y Pasg yw 'Wythnos y Pasg' (yng Nghristnogaeth y Gorllewin) ac 'Wythnos Pascha' (yr un gair â 'Pasg') yng Nghristnogaeth y Dwyrain. Dethlir yr Atgyfodiad o'r Sul hwn am weddill yr wythnos. Ceir nifer o draddodiadau sy'n parhau hyd heddiw yn ystod yr wythnos hon, gan gynnwys Cyfarchiad y Pasg ("Cododd Crist!") ac addurno wyau Pasg.
 
Yn yr [[20fed ganrif]] gwnaeth nifer o unigolion a sefydliadau eglwysig nifer o geisiadau i sefydlogi'r Pasg i'r un diwrnod pob blwyddyn, a'r cais cryfaf oedd y dylai'r Pasg ddisgyn ar y Dydd Sul wedi'r ail Sul yn Ebrill. Hyd yma (2016) nid yw'r argymhelliad hwn wedi ei wireddu.<ref name=Britannica>{{cite web | url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/176858/Easter | title=Easter (holiday) | publisher=Encyclopædia Britannica | work=Encyclopædia Britannica Online|accessdate=9 March 2013}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Y Pasg]]