Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Dadl ynglŷn a "Cheltiaid" ynysig: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|it}} using AWB
Llinell 132:
Ceir llawer o gyfeiriadau at fywyd a nodweddion y Celtiaid gan awduron clasurol. Maent yn cytuno fod y Celtiaid yn bobl ryfelgar, ond eu bod yn ymladd fel casgliad o unigolion yn hirach nag fel byddin ddisgybledig yn null y Rhufeiniaid. Dywedir eu bod yn hoff o gasglu pennau eu gelynion a'u harddangos yn eu pentrefi. Ymddengys fod gan y pen dynol arwyddocâd neilltuol i'r Celtiaid, ac efallai fod adlewyrchiad o hyn yn chwedl ''[[Branwen ferch Llŷr]]'' ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]], lle mae [[Bendigeidfran]], wedi ei glwyfo hyd angau, yn gorchymyn torri ei ben a'i gladdu yn [[Llundain]] i amddiffyn y deyrnas<ref>Williams, Ifor ''Pedair Keinc y Mabinogi''</ref>.
 
[[Delwedd:colignyRoundhouses at Dan yr Ogof (9055).jpg|bawd|dde|200px|RhanTai oCeltaidd Galendryn ColignyNhan-yr-Ogof.]]
[[Delwedd:coligny.jpg|bawd|200px|Rhan o Galendr Coligny.]]
 
Roedd pedair prif ŵyl yn y flwyddyn Geltaidd: "Imbolc" ([[Gŵyl Fair y Canhwyllau|Gŵyl y Canhwyllau]]) ar [[1 Chwefror]], yn gysylltiedig â'r dduwies [[Brigit]] ("Ffraid" yn Gymraeg); "Beltain" ([[Calan Mai|Gŵyl Galan Mai]]) ar [[1 Mai]], yn gysylltiedig â ffrwythlondeb ac efallai â duw'r haul, [[Belenos]]; "Lughnasa" ([[Gŵyl Galan Awst]]) ar [[1 Awst]] yn gysylltiedig â'r cynhaeaf a'r duw [[Lugh]] neu [[Lleu Llaw Gyffes]], a "[[Samhain]]" ([[Nos Galan Gaeaf|Gŵyl Galan Gaeaf]]), yr ŵyl bwysicaf y pedair, ar [[31 Hydref]].<ref>Freeman tt. 100-1</ref> Ar Ŵyl Galan Gaeaf, roedd y ffiniau rhwng y byd daearol a'r arall-fyd yn diflannu, syniad sy'n parhau i raddau yn rhai o arferion dathlu [[Nos Galan Gaeaf|Gŵyl Galan Gaeaf]]. [[Calendr Coligny]] o Ffrainc, wedi ei ysgrifennu yng Ngaeleg, yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y calendr Celtaidd. Dywed Iŵl Cesar eu bod yn mesur cyfnodau amser yn ôl nosweithiau yn hytrach na dyddiau, rhywbeth sydd efallai wedi goroesi yn y gair Cymraeg "pythefnos".<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.18</ref>