Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Albert Edward Jenkins''' (11 Mawrth, 1895 - 7 Hydref, 1953) yn chwaraewr rygbi a fu'n chware i Glwb Rygbi Llanelli ac yn rhyngwla...'
Dechreuodd Jenkins i chware rygbi gyda thîm o'r enw ''The Sand Lads"'' tua 1909; tîm ieuenctid yn ardal Llanelli a oedd yn chwarae eu gemau ar y traeth ar faes oedd wedi ei farcio gyda llinellau ar y tywod. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd Jenkins a Chatrawd y Traed Milwyr Cymreig<ref>[http://www.militarian.com/threads/albert-jenkins-rugby-player.8693/ Albert Jenkins : Rugby Player] adalwyd 22 Mai 2016</ref>, gan chware ar ran tîm ei gatrawd. <ref> 3:10 Munud o ''Yr Wythnos - Albert Jenkins'' [https://www.youtube.com/watch?v=iInlRNviEJE] adalwyd 22 Mai 2016</ref>. Wedi dychwelyd o'r Rhyfel ym 1919 ymunodd a thîm hyn Llanelli, gan ddod yn arwr i'r clwb. Chwaraeodd dros Lanelli yn erbyn Seland Newydd ddwywaith gan golli ym 1924 ond gan eu curo 3-0 ym 1926.