David Hughes (Eos Iâl): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn ailgyfeirio at Ar Gyfer Heddiw'r Bore
 
Newydd
Llinell 1:
[[Bardd]] a [[cyhoeddwr|chyhoeddwr]] o [[Edeyrnion]] oedd '''David Hughes''' a ddefnyddiai'r enw barddol '''Eos Iâl''' (1794? - 2 Mawrth 1862)<ref>Ceir dyddiad ei farwolaeth ym ''Mlodau'r Gân'' (1862) gan Hugh Derfel Hughes.</ref>. Mae'n adnabyddus fel awdur y garol plygain [[Ar Gyfer Heddiw'r Bore]].
#AIL-CYFEIRIO [[Ar Gyfer Heddiw'r Bore]]
 
Fe'i ganed ym "Mrynllwynog", [[Bryneglwys]] ger [[Corwen]], Sir Ddinbych a bu'n byw yng [[Cynwyd|Nghynwyd]], ym mhlwyf Llangar, ychydig filltiroedd i ffwrdd o 1824 hyd 1831. Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda merch o Gynwyd a gladdwyd yn [[Eglwys Llangar]]. Cafodd wyth o blant: "Wyth o blant eitha blin" canodd unwaith mewn cywydd. Yn ei ieuenctid, bu'n hoff iawn o'r ddiod, ond daeth dan ddylanwad y diwygiad dirwestol a chyn hir roedd yn un o'u harweinwyr ac roedd yn aelod selog o'r ''Oddfellows''. Bu'n aelod yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghynwyd ac yna yng nghapel y Bedyddwyr yn [[Llansanffraid Glynceiriog|Llansantfraid]], lle'i claddwyd. Bu farw'n 67 oed.
 
==Bardd==
Yn 1824 enillodd mewn eisteddfod yng Nghorwen a hyd at 1835 bu'n gystadleuwr brwd. Yn 1839 cyhoeddodd gyfrol o gerddi caeth a rhydd, a fu'n hynod o boblogaidd. Yn ôl [[Bob Owen]], Croesor, nid yw ei gerdd i werth parhaol, fodd bynnag.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-HUGH-DAV-1794.html Y Bywgraffiadur Arlein; [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]; Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor]; adalwyd Rhagfyr 2016.</ref> Roedd y rhan fwyaf o'i gerddi'n beirniadu pydredd cymdeithasol a moesol ei oes.<ref>[http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1386666/llgc-id:1411745/llgc-id:1412082/get650 Papurau digidol y Llyfrgell Genedlaethol;] adalwyd Rhagfyr 2016.</ref>
 
==Argraffu a chyhoeddi==
Yn 1837 adeiladodd [[gwasg argraffu]] bren yn ei gartref, cafodd afael mewn hen deip o eiddo Thomas Thomas, argraffydd o Gaer, a chyda'r rhain argraffodd ychydig o lyfrau a nifer o garolau a baledi.
 
===Cyhoeddiaidau===
* ''Ffrwyth y Profiad neu Waedd yn Erbyn Meddwdod'' (pamffled)
* ''Araith Beelsebub Tywysog y Fagddu Fawr'' (pamffled)
 
 
==Gweler hefyd==
*[[William Jones (Ehedydd Iâl)|Ehedydd Iâl]] (15 Awst 1815 – 15 Chwefror 1899)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Hughes (Eos Iâl), David}}
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Emynwyr Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau 1794]]
[[Categori:Marwolaethau 1862]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 18fed ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]
[[Categori:Bryneglwys]]
[[Categori:Cynwyd]]