Frederick Richard West: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Frederick Richard West''' ([[1799]] - [[1 Mai]], [[1862]]) yn [[Aelod Seneddol]] Ceidwadol. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol [[Bwrdeistrefi Dinbych (etholaeth seneddol)|Bwrdeistrefi Dinbych]] rhwng 1826 a 1830 ac eto rhwng 1847 a 1857, bu hefyd yn AS [[East Grinstead]] rhwng 1830 a 1832<ref>[https://archive.org/stream/cu31924030498939#page/n103/mode/2up Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895]</ref>
 
==Bywyd Cynnar==
Llinell 8:
 
==Gyrfa wleidyddol==
 
===1826 – 1832===
Safodd fel ymgeisydd dros Fwrdeistrefi Dinbych yn etholiad Cyffredinol 1820, gan golli i John Wynn Griffiths.
 
Bu anghydfod rhwng mam West a'i chwiorydd parthed perchenogaeth Castell y Waun wedi marwolaeth Richard Myddleton, cafodd y mater ei setlo gan y llysoedd ym 1819 ond parhaodd y drwgdeimlad rhwng y chwiorydd wedi hynny.<ref>[http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/west-frederick-1799-1862 WEST, Frederick Richard (1799-1862), of Ruthin Castle, Denb.
Published in The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009]</ref>
 
Cyn yr 20fed ganrif doedd dim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis aelod newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf. Mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Bu etholaethau pell i ffwrdd o [[Senedd y Deyrnas Unedig|San Steffan]], megis rhai'r [[Yr Alban|Alban]] yn cynnal etholiadau cynnar iawn ac etholaethau Llundain yn cynnal etholiadau hwyr. Y tueddiad yng [[Cymru|Nghymru]] oedd cynnal etholiadau yn y cyfnod canolig. Roedd cefnder West, mab chwaer ei fam, [[Robert Myddelton-Biddulph]] ar fin dathlu ei ben blwydd yn 21in oed (sef yr oedran y caniatawyd dynion i sefyll mewn etholiad) ac yn disgwyl i'r etholiad cael ei gynnal ar ôl ei ben-blwydd. Cyhoeddodd Myddelton-Biddulph ei fwriad i sefyll dros y bwrdeistrefi, ond perswadiodd West y Siryf i gynnal etholiad cynnar gan rwystro Myddleton-Biddulph rhag sefyll.