Frederick Richard West

gwleidydd (1799-1862)

Roedd Frederick Richard West (17991 Mai 1862) yn Aelod Seneddol Ceidwadol. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1826 a 1830 ac eto rhwng 1847 a 1857, bu hefyd yn AS East Grinstead rhwng 1830 a 1832[1]

Frederick Richard West
Ganwyd1799 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1862 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadFrederick West Edit this on Wikidata
MamMaria Myddelton Edit this on Wikidata
PriodTheresa Whitby, Lady Georgiana Stanhope Edit this on Wikidata
PlantWilliam Cornwallis-West, Georgiana Theresa Ella Cornwallis-West Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar

golygu

Ganwyd West yn Sgwâr Hanover, Llundain ym 1799 yn trydydd mab Frederick William West, Castell y Waun (1773-1852) a Maria Myddleton ei wraig. Bu Fredrick William yn AS Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1802 ac 1806, a bu taid ar ochor mam Fredrick Richard, Richard Myddleton, yn cynrychioli'r etholaeth rhwng 1747 a 1788.

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen. Gadawodd Rhydychen heb dderbyn gradd.[2]

Gyrfa wleidyddol

golygu

1826 – 1832

golygu

Safodd fel ymgeisydd dros Fwrdeistrefi Dinbych yn etholiad Cyffredinol 1820, gan golli i John Wynn Griffiths.

Bu anghydfod rhwng mam West a'i chwiorydd parthed perchenogaeth Castell y Waun wedi marwolaeth Richard Myddleton, cafodd y mater ei setlo gan y llysoedd ym 1819 ond parhaodd y drwgdeimlad rhwng y chwiorydd wedi hynny.[3]

Cyn yr 20g doedd dim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis aelod newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf. Mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Bu etholaethau pell i ffwrdd o San Steffan, megis rhai'r Alban yn cynnal etholiadau cynnar iawn ac etholaethau Llundain yn cynnal etholiadau hwyr. Y tueddiad yng Nghymru oedd cynnal etholiadau yn y cyfnod canolig. Roedd cefnder West, mab chwaer ei fam, Robert Myddelton-Biddulph ar fin dathlu ei ben blwydd yn 21in oed (sef yr oedran y caniatawyd dynion i sefyll mewn etholiad) ac yn disgwyl i'r etholiad cael ei gynnal ar ôl ei ben-blwydd. Cyhoeddodd Myddelton-Biddulph ei fwriad i sefyll dros y bwrdeistrefi, ond perswadiodd West y Siryf i gynnal etholiad cynnar gan rwystro Myddleton-Biddulph rhag sefyll.[3]

Er gwaethaf ei ddichell bu bron i gynllun West fethu. Cefnogodd teulu Myddleton-Biddulph ymgeisydd arall o'r enw Joseph Ablet. Enillodd y ddau ymgeisydd 273 o bleidleisiau'r un. Cyflwynwyd deiseb i'r senedd i geisio pennu'r enillydd ond tynnodd Ablet ei enw yn ôl cyn clywed y ddeiseb, gan roi'r sedd i West.[1]

Gan wybod nad oedd triciau dan dîn yn mynd i drechu ei gefnder yr ail dro, penderfynodd West i beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad cyffredinol 1830. Safodd yn etholaeth East Grinstead, Dwyrain Sussex, lle'r oedd ei dad yn berchen ar ystâd. Roedd East Grinstead yn etholaeth bwdr, lle fu 32 o etholwyr yn ethol 2 AS. Dilëwyd yr etholaeth yn Neddf Diwygio Fawr 1832, gan adael West heb sedd.

Yn y cyfnod yma o'i yrfa seneddol bu West yn hynod wrthwynebus i roi hawliau sifil i Gatholigion ac Iddewon; safbwynt na fyddai wedi brifo ei obeithion etholiadol ymysg pleidleiswyr Anglicanaidd ac Anghydffurfiol Dinbych. I geisio cryfhau ei afael ar yr etholaeth ceisiodd codi morgeisi i brynu eiddo yn yr etholaeth (mewn cyfnod lle fu tenant, nad oedd yn cefnogi ei landlord, yn cael ei droi allan o'r eiddo). Gwrthododd bancwyr Iddewig Llundain, a phrif fancwyr Gogledd Cymru (teulu Catholig Sankey) benthyg arian iddo, mewn protest, gan ddryllio ei obeithion.[3]

1847 – 1857

golygu

Bu West yn yr anialwch gwleidyddol rhwng 1832 a 1847, ond wedi cymedroli rhywfaint ar uchel Dorïaeth ei ieuenctid ac ychwanegu Wrecsam i Fwrdeistrefi Dinbych gwelodd cyfle i ail afael ar ei yrfa seneddol. Mewn cyfnod lle fu anghydfod mawr parthed diffyn tollau ar ŷd a'r orfodaeth i dalu treth degwm i'r Eglwys. Safodd fel Ceidwadwr Rhyddfrydig, un oedd am gymodi a dod i gyfaddawd teg rhwng dadleuwyr ffyrnig y naill ochrau a'r lleill. Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad ym 1847 amddiffynnodd y sedd yn erbyn ymgeisydd Rhyddfrydol ym 1852 cyn ymneilltuo o'r Senedd, mewn iechyd gwael ym 1857

Bywyd Personol

golygu

Priodasau

golygu

Bu'n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd y Ledi Georgina Stanhope merch Philip Stanhope, 5ed Iarll Chesterfield a Henrietta, merch Thomas Thynne, Ardalydd 1af Bath. Priodasant 14 Tachwedd 1820; bu iddynt dau blentyn a fu farw ychydig ar ôl eu geni, bu farw hi o wewyr geni'r ail blentyn ym 1824.

Ym 1827 priododd Theresa merch y Capten John Whitby, bu iddynt 3 mab ac un ferch. Un o'r meibion oedd William Cornwallis-West, a ddaeth yn AS Orllewin Sir Ddinbych.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref, Castell Rhuthun, a rhoddwyd ei olion i orffwys mewn claddgell deuluol yn eglwys Sant Pedr, Rhuthun.

Cyfeiriadau

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Wynne Griffith
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
18261820
Olynydd:
Robert Myddelton-Biddulph
Rhagflaenydd:
Is Iarll Holmesdale
Aelod Seneddol East Grinstead
18301832
Olynydd:
Diddymu
Rhagflaenydd:
Townshend Mainwaring
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
18471857
Olynydd:
Townshend Mainwaring