Y Fro Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 17:
 
Yn ogystal mae cynghorau sir fel [[Gwynedd]] yn gwneud defnydd helaeth o'r iaith fel iaith weinyddol a swyddogol o fewn y cyngor. Ond mae gan rhai cynghorau yn y Fro, e.e. cyngor [[Sir Gaerfyrddin]], hanes digon amwys am eu diffyg defnydd o'r iaith a'u cefnogaeth tuag ati.
 
== Diffinio'r Fro Gymraeg yn 1964 ==
 
Crewyd y term 'Y Fro Gymraeg' gan Owain Owain. Mewn ysgrif ("ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . ") yn Y Cymro, 12 Tachwedd, 1964, rhoddir ffurf ar y syniad o ganolbwyntio'r frwydr ar yr ardaloedd Cymraeg. Dywedodd Owain yn ei erthygl y frawddeg enwog: 'Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.'
 
Dilynwyd ef gan yr Athro J. R. Jones ac yna Emyr Llewelyn a ffurfiodd Mudiad Adfer.
 
 
 
 
 
==Gweler hefyd==