Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun i fyny
maint
Llinell 135:
 
[[Delwedd:Roundhouses at Dan yr Ogof (9055).jpg|bawd|Tai Celtaidd yn Nhan-yr-Ogof.]]
[[Delwedd:coligny.jpg|bawd|200px|Rhan o Galendr Coligny.]]
 
Roedd pedair prif ŵyl yn y flwyddyn Geltaidd: "Imbolc" ([[Gŵyl Fair y Canhwyllau|Gŵyl y Canhwyllau]]) ar [[1 Chwefror]], yn gysylltiedig â'r dduwies [[Brigit]] ("Ffraid" yn Gymraeg); "Beltain" ([[Calan Mai|Gŵyl Galan Mai]]) ar [[1 Mai]], yn gysylltiedig â ffrwythlondeb ac efallai â duw'r haul, [[Belenos]]; "Lughnasa" ([[Gŵyl Galan Awst]]) ar [[1 Awst]] yn gysylltiedig â'r cynhaeaf a'r duw [[Lugh]] neu [[Lleu Llaw Gyffes]], a "[[Samhain]]" ([[Nos Galan Gaeaf|Gŵyl Galan Gaeaf]]), yr ŵyl bwysicaf y pedair, ar [[31 Hydref]].<ref>Freeman tt. 100-1</ref> Ar Ŵyl Galan Gaeaf, roedd y ffiniau rhwng y byd daearol a'r arall-fyd yn diflannu, syniad sy'n parhau i raddau yn rhai o arferion dathlu [[Nos Galan Gaeaf|Gŵyl Galan Gaeaf]]. [[Calendr Coligny]] o Ffrainc, wedi ei ysgrifennu yng Ngaeleg, yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y calendr Celtaidd. Dywed Iŵl Cesar eu bod yn mesur cyfnodau amser yn ôl nosweithiau yn hytrach na dyddiau, rhywbeth sydd efallai wedi goroesi yn y gair Cymraeg "pythefnos".<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.18</ref>