Elizabeth Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎Bywgraffiad: clean up
Llinell 3:
 
== Bywgraffiad ==
Ganwyd Elizabeth Griffith ym Morgannwg, yn ferch i reolwr Theatr Dulyn, Thomas Griffith a'i wraig Jane Foxcroft Griffith ar 11 hydref, 1727. Yn ogystal â rhoi iddi fynediad i theatr y byd, addysgwyd Elizabeth mewn Ffrangeg a llenyddiaeth Saesneg. Bu ei thad farw yn 1744, a syrthiodd y teulu i dlodi.
 
Ar 13 Hydref 1749 y perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf, pan chwaraeodd ran Juliet gyda Thomas Sheridan yn actio rhan Romeo. Arbenigodd mewn trasiediau e.e. Jane Lan yn The Tragedy of Jane Shore gan Nicholas Rowe a Cordelia yn ''[[King Lear]]''.
 
Cyfarfu â'i darpar ŵr Richard Griffith, yn 1746. Ar 12 Mai 1751, priododd y ddau yn y dirgel a ganwyd dau o blant iddynt: Catherine a Richard.
 
Seiliwyd ei gwaith llenyddol cyntaf ar eu partneriaeth pum mlynedd, a chyhoeddwyd ''A Series of Genuine Letters Between Henry and Frances ''mewn chwe chyfrol rhwng 1757 a 1770. Mae'r llythyrau hyn yn cynnwys llawer o gyfeiriadau at "llenyddol ac athronyddol bynciau o ddiddordeb i'r ddwy ochr, fel llythyrau [[Jonathan Swift]] ac [[Alexander Pope]] neu <span>''Swyddfeydd ''[[Cicero]]</span>''"''.<ref>Staves, Susan. </ref> Daeth ''Letters between Henry and Frances'' yn llwyddiant ar unwaith.
 
Benthyciodd Richard, swm mawr o arian i ddatblygu  ffatri gwneud lliain ond aeth yr hwch drwy'r siop yn 1756. Yn ystod y cyfnod hwn, a tra roedd Richard yn osgoi dyledwyr y llys, incwm Griffith, drwy ysgrifennu oedd yn cynnal y teulu. Parhaodd ei gyrfa actio yn [[Covent Garden]], yn Llundain, o 1753 i 1755,<ref>Napier, Elizabeth R. "Elizabeth Griffith." </ref> er mai mân gymeriadau oedd yn eu hactio, fel arfer.
 
== Dolenni allanol ==