Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
maint
B clean up
Llinell 6:
[[Delwedd:Ancient Britons - Description of Great Britain and Ireland (c.1574), f.8v - BL Add MS 28330.jpg|bawd|250px|Llun a gyhoeddwyd yn [[yr Iseldiroedd]] tua 1574 o'r Brythoniaid cynnar.]]
 
Defnyddir y term '''y Celtiaid''' gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin [[Ewrop]], gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag [[Asia Leiaf]]. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn [[ieithoedd Celtaidd]] a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] ([[Cymraeg]], [[Llydaweg]], a [[Cernyweg|Chernyweg]]) a rhwng y tair iaith [[Goideleg|Oideleg]] ([[Gaeleg]], [[Gwyddeleg]], a [[Manaweg]]).
 
Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr hen-fyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr hen-fyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia ([[Marseille]] heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. Dywed [[Herodotus]] eu bod yn byw o gwmpas tarddle [[Afon Donaw]]; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yng [[Gâl|Ngâl]] gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywed [[Iŵl Cesar]] fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.
 
Dechreuodd y defnydd modern o'r term "Celtaidd" yn y [[18g]] pan ddangosodd [[Edward Lhuyd]] fod ieithoedd megis [[Cymraeg]], [[Llydaweg]] a [[Gwyddeleg]] yn perthyn i'w gilydd. Rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Yn ddiweddarach, yn gam neu'n gymwys, cysylltwyd y Celtiaid a diwylliannau yn yr ystyr archeolegol sy'n cynnwys [[y diwylliant Hallstatt]] a [[diwylliant La Tène]]. Ystyria'r mwyafrif o ysgolheigion fod y "byd Celtaidd" yn yr hen-fyd yn cynnwys [[Celt-Iberiaid]] ([[Portiwgal]] a [[Sbaen]] heddiw, gan gynnwys [[Galicia]]), trigolion [[Prydain]] ac [[Iwerddon]], y Galiaid yng [[Gâl|Ngâl]] ([[Ffrainc]], gogledd [[yr Eidal]], y [[Swistir]] a'r cylch) a'r [[Galatiaid]] ([[Asia Leiaf]]: [[Twrci]] heddiw). Mae rhai ysgolheigion yn dadlau na ddylid ystyried trigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid yn yr ystyr yma.
 
Y gwledydd a ystyrir yn "wledydd Celtaidd" heddiw fel rheol yw'r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] - [[yr Alban]], [[Cernyw]], [[Cymru]], [[Iwerddon]], [[Ynys Manaw]], a [[Llydaw]]. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig [[Galicia]] ac [[Asturias]] yn [[Sbaen]].
 
==Yr enw==
Ceir llawr o gyfeiriadau gan awduron o'r hen-fyd yn ysgrifennu mewn [[Groeg]] a [[Lladin]] at y ''Celti'' (''Κελτός'', ''Κελτοί'') neu'r ''Celtae'' am lwythau yng ngogledd yr Eidal ac i'r gogledd o'r [[Alpau]], ac yn ddiweddarach am lwythau yn siarad ieithoedd cyffelyb yn [[Anatolia]]. Mae enw'r ''Galli''' (Galiaid) a ''Galatae'' ([[Galatiaid]]) yn dod o'r un gwreiddyn. Defnyddid y gair ''Celtiberi'' am drigolion canolbarth [[Sbaen]].<ref name="ReferenceA">Koch (gol) ''Celtic culture'' Cyf. 1, t. 371</ref>
 
Nid oes sicrwydd am darddiad yr enw. Gall darddu o hen air [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|Indo-Ewropeaidd]]; efallai ''*k'el'' yn golygu "cuddio" (cymharer Cymraeg "celu") neu ''*kel'' yn golygu "gyrru ymlaen".<ref name="ReferenceA"/>
 
Yn ôl chwedl a adroddir gan [[Diodorus Siculus]], roedd y Galiaid yn ddisgynyddion i [[Heracles]]. Dywedir fod Heracles wedi ymweld ag [[Alesia]] yng Ngâl a bod merch y brenin yno wedi syrthio mewn cariad ag ef. Ganwyd mab o'r enw Galates iddynt. Yn ôl y chwedl yma, Celtus oedd cyndad y Celtiaid.<ref>Koch (gol) ''Celtic culture'' Cyf 3, tt. 905-6</ref>
Llinell 28:
:Mae'r afon Ister ([[Afon Donaw]]) yn dechrau gyda'r ''Keltoi'' a dinas Pyrene, ac yn llifo fel ei bod yn gwahanu Ewrop trwy'r canol (mae'r ''Keltoi'' tu draw i Bileri Ercwlff ac yn ffinio ar y Kynesiaid, sy'n byw pellaf tuag at y machlud o holl drigolion Ewrop).<ref>Herodotus ''Hanesion'' 2.33</ref>
 
Mae Afon Donaw yn tarddu yng nghanolbarth yr [[Almaen]], ond mae'n ymddangos oddi wrth hyn fod Herodotus yn credu ei bod yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin, ym mynyddoedd y [[Pyreneau]]. Roedd "Pileri Ercwlff" yn yr hen fyd yn gyfeiriad at y creigiau bob ochr i [[Culfor Gibraltar|Gulfor Gibraltar]]. Mae'n amlwg fod Herodotus yn meddwl am y Celtiaid fel pobl yn byw yn y gorllewin; de-orllewin [[Ffrainc]] neu ogledd-orllewin [[Sbaen]] yn ôl pob tebyg.<ref>Powell ''The Celts'' t. 15-6</ref>
 
Mae'r daearyddwr Groegaidd [[Strabo]] yn y ganrif gyntaf CCC. yn lleoli ''Celtica'' yng [[Gâl|Ngâl]], a cheir cyfeiriadau at yr ardal yma gan nifer o awduron eraill, er bod rhai'n rhoi lleoliad gwahanol i'r ''Keltoi''. Ceir cyfeiriadau gan awduron megis [[Polybius]], [[Posidonius]], [[Diodorus Siculus]] a [[Plinius yr Hynaf]].<ref>Gweler Freeman ''The philosopher and the druids'' am drafodaeth o hanesion Posidonius am y Celtiaid.</ref>
Llinell 58:
:''By Celts I mean people who spoke a Celtic dialect, not people who buried their dead in urnfields, or had leaf-shaped swords or any particular kind of poetry. This is not an infallible statement of known truth, it is merely an agreed use of the term upon which linguists insist, and which has a long history behind it.''<ref>Dyfynnir yn D. Ellis Evans "Yr ieithoedd Celtaidd" yn Geraint Bowen (gol.) ''Y Gwareiddiad Celtaidd'' t. 31</ref>
 
Tuedd archeolegwr, ar y llaw, arall, yw diffinio "Celtiaid" fel pobl ag iddynt fath arbennig o ddiwylliant yn yr ystyr archeolegol. Cred rhai ysgolheigion fod [[Diwylliant y Meysydd Wrnau]] yng ngogledd yr [[Almaen]] a'r [[Iseldiroedd]] yn dynodi presenoldeb Celtiaid. Roedd y diwylliant yma yn amlwg yng nghanolbarth Ewrop rhwng tua [[1200 CCC]] a [[700 CCC]]. Mae'r [[Y diwylliant Hallstatt|diwylliant Hallstatt]] a ddatblygodd yng nghanolbarth Ewrop rhwng tua 700 CCC a [[500 CCC]] hefyd wedi ei gysylltu â'r Celtiaid.
 
Dilynwyd y diwylliant Hallstatt gan [[Diwylliant La Tène|ddiwylliant La Tène]], hefyd yng nghanolbarth Ewrop. Cysylltir y diwylliant hwn gyda'r Celtiaid gan lawer o ysgolheigion, sy'n nodi bod cryn nifer o enwau Celtaidd ar afonydd o gwmpas rhan uchaf [[Afon Donaw]] ac [[Afon Rhein]]. Cred eraill fod y diwylliant La Tène yn rhy hwyr i fod yn brawf o leoliad mamwlad y Celtiaid, a'u bod wedi ymledu i'r ardaloedd hyn o rywle arall. Ni ymdaenodd diwylliant La Tène i bob ardal Geltaidd ei hiaith; roedd Sbaen a'r rhan fwyaf o Iwerddon tu allan i draddodiad La Tène.<ref name="Davies Y Celtiaid t. 47">Davies ''Y Celtiaid'' t. 47</ref>
Llinell 109:
[[Delwedd:ParisiiCoins.jpg|bawd|chwith|300px|Darnau arian y Parisii, y [[ganrif 1af CCC]], ([[Cabinet des Médailles]], Paris)]]
 
Amaethyddiaeth oedd yr elfen bwysicaf yn economi'r rhan fwyaf o'r llwythau, yn cynnwys tyfu cnydau a chadw anifeiliaid. Roedd [[gwartheg]] yn arbennig o bwysig, ond cedwid defaid a moch hefyd. Ystyrid y [[ceffyl]] o bwysigrwydd mawr ar gyfer dynodi statws ac ar gyfer rhyfel. Roedd mwyngloddio yn bwysig i rai o'r bobloedd Geltaidd hefyd, yn enwedig cloddfeydd [[halen]] yng nghanolbarth Ewrop.
 
Dechreuodd rhai pobl Geltaidd fathu eu darnau arian eu hunain tua diwedd y [[3edd ganrif CCC]], efallai oherwydd dylanwad Groegaidd. Erbyn y [[ganrif 1af CCC]] roedd llawer o'r llwythau yn cynhyrchu eu darnau arian eu hunain. Dengys eitemau a gladdwyd gyda'r meirwon fod masnach sylweddol rhwng rhai o'r bobloedd Geltaidd a'r gwledydd o amgylch [[Môr y Canoldir]]. Ymhlith yr eitemau a allforid roedd [[haearn]], [[tun]], [[gwlân]] a [[halen]], tra mewnforid [[gwydr]], [[gwin]] ac eitemau eraill.
Llinell 120:
Cysylltir y Celtiaid yn aml â [[Y diwylliant Hallstatt|diwylliant Hallstatt]]. Mae'r diwylliant yma yn dyddio o ddiwedd yr [[Oes yr Efydd|Oes Efydd]] a rhan gyntaf yr [[Oes Haearn]] yng nghanolbarth Ewrop. Yn sicr cofnodir pobloedd oedd yn siarad ieithoedd Celtiaid mewn llawer o'r ardaloedd lle ceir y diwylliant yma, ond mae'n debyg fod pobloedd oedd yn siarad ieithoedd eraill yn dangos nodweddion y diwylliant yma hefyd.<ref name="Davies Y Celtiaid t. 47"/>
 
Dilynwyd diwylliant Hallstatt dan [[Diwylliant La Tène]] yn ddiweddarach yn yr Oes Haearn, eto yng nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'r [[Alpau]]. Mae rhywfaint mwy o sail dros gysylltu'r Celtiaid â'r diwylliant yma, ac mae celfyddyd gwaith metel La Tène yn dangos nodweddion celfyddyd Geltaidd. Ymledodd diwylliant La Tène cyn belled â Phrydain a rhan o Iwerddon; er enghraifft ystyrir y casgliad o eitemau a ddarganfuwyd yn [[Llyn Cerrig Bach]] ar [[Ynys Môn]] yn un o'r casgliadau pwysicaf o gelfi La Tène yn [[Ynysoedd Prydain]].<ref>Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwy Môn)</ref>
 
Credid ar un adeg fod ymddangosiad eitemau yn arddull La Tène yn dynodi dyfodiad y Celtiaid i'r ynysoedd hyn, gan ddwyn yr ieithoedd Celtaidd gyda hwy. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion o'r farn na fu symudiad mawr o bobl, dim ond lledaeniad ffasiwn newydd mewn celfyddyd. Nid oes dim llawer o eitemau La Tène wedi eu darganfod yn Sbaen, lle'r oedd poblogaeth Geltaidd sylweddol.
Llinell 153:
[[Delwedd:Gaulois.JPG|bawd|Arysgrif mewn Galeg o Ffrainc]]
 
Mae'r [[ieithoedd Celtaidd]] yn perthyn i'r teulu ieithyddol [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|Indo-Ewropeaidd]]. Nid yw ysgolheigion yn cytuno ar eu perthynas ag is-deuluoedd eraill yn y teulu.
 
Mae anghytundeb hefyd ar sut yn union y dylid dosbarthu'r ieithoedd Celtaidd eu hunain. Un dosbarthiad yw eu rhannu yn Gelteg Ynysig a Chelteg y Cyfandir. Roedd [[Celteg y Cyfandir]] yn cynnwys sawl iaith a thafodiaith [[Celteg]] a siaredid ar gyfandir Ewrop a rhan o [[Asia Leiaf]], yn cynnwys, [[Galateg]] (iaith y Galatiaid), [[Galeg]] (iaith [[Gâl]], [[Celtibereg]] (iaith rhannau o [[Portiwgal|Bortiwgal]] a [[Sbaen]]) a [[Leponteg]] (iaith [[Gallia Cisalpina]] yng ngogledd [[Yr Eidal]]). Nid oes yr un o'r ieithoedd hyn yn fyw heddiw, ond darganfuwyd nifer fawr o arysgrifau o Gâl, gogledd yr Eidal a Sbaen. Sylwer mai iaith Ynysig yw [[Llydaweg]], er mai ar y cyfandir y siaredir hi.<ref>D. Ellis Evans "Yr ieithoedd Celtaidd" yn Bowen (gol.) ''Y gwareiddiad Celtaidd'' tt. 29-64</ref>
Llinell 170:
[[Delwedd:Celtic Nations.svg|chwith|bawd|120px|Y "chwe gwlad" Geltaidd]]
 
Yn y cyfnod diweddar, nododd yr hanesydd Albanaidd [[George Buchanan]] yn ei lyfr ''Rerum Scoticarum Historia'' ([[1582]]) fod grŵp o ieithoedd ym Mhrydain ac Iwerddon a hen iaith Gâl oedd ar wahân i'r ieithoedd Lladin a'r ieithoedd Germainid, a galwodd hwy'r ieithoedd Galaidd. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" am rai o drigolion Prydain ac Iwerddon, gan awgrymu fod Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban wedi cyrraedd yno gydag ymfudwyr o dde Gâl. Nid oedd ef yn cynnwys y Brythoniaid yn ei ddefnydd o "Celt".<ref>John Collis, "George Buchanan and the Celts in Britain" yn ''Celtic Connections: proceedings of the tenth international cnference of Celtic Studies'' tt. 91-107</ref>
 
Mae'r defnydd o'r geiriau 'Celtiaid' a 'Cheltaidd' yn yr ystyr fodern yn deillio o lyfr a gyhoeddwyd yn [[1703]] gan y [[Llydaw]]r [[Paul-Yves Pezron]]. Yn ''Antiquité de la nation, et de langue des celtes'' dangosodd fod y Llydäwyr a'r Cymry yn perthyn i'w gilydd, a dywedodd eu bod yn ddisgynyddion y Celtiaid yr oedd yr awduron clasurol yn cyfeirio atynt.<ref name="Davies Y Celtiaid tt. 169-70">Davies ''Y Celtiaid'' tt. 169-70</ref>
 
Ym [[1707]] cyhoeddodd yr ieithydd a hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] y gyfrol ''Glossography'', y gyfrol gyntaf o'r ''Archaeologia Britannica'' arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Dangosodd fod ieithoedd megis [[Cymraeg]], [[Llydaweg]] a [[Gwyddeleg]] yn perthyn i'w gilydd, a rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'r [[ieithoedd Celtaidd]].<ref name="Davies Y Celtiaid tt. 169-70"/> Ymddengys mai Lhuyd oedd y person cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" mewn rhywbeth tebyg i'w ystyr fodern, er mai term ieithyddol ydoedd ganddo ef.
Llinell 178:
[[Delwedd:Iolomorganwg cropped.jpg|de|bawd|160px|Iolo Morgannwg]]
 
Datblygodd diddordeb yn y Celtiaid trwy'r [[18g]], er enghraifft llyfrau'r hynafiaethydd [[William Stukeley]] yn rhoi pwyslais ar y derwyddon. Cyhoeddwyd barddoniaeth oedd wedi ei briodoli i'r bardd Gaeleg [[Ossian]], ond a oedd mewn gwirionedd wedi eu hysgrifennu gan [[James MacPherson]], a chawsant dderbyniad brwd. Cafodd [[Iolo Morgannwg]] hefyd ddylanwad mawr; hoerai ef fod beirdd [[Morgannwg]] wedi cadw traddodiad o ddoethineb oedd yn mynd yn ôl i gyfnod y derwyddon.<ref>Koch (gol.) ''Celtic culture'' Cyf. 1, t. 385</ref>
 
Yn y [[19g]] tyfodd cenedlaetholdeb yn Iwerddon yn arbennig, ac arweiniodd hyn at ddiddordeb yn y Celtiaid fel hynafiaid cenedl y Gwyddelod. Datblygwyd cysylltiadau rhwng y gwledydd Celtaidd, er enghraifft yn dilyn ymweliadau'r Llydäwr [[Théodore Hersart de la Villemarqué]], awdur y [[Barzaz Breiz]], a Chymru yn 1838 a 1839. Ymhlith yr astudiaethau ysgolheigaidd dylanwadol gellir nodi ''Essaie sur la Poésie des Races Celtiques'' (1854) gan [[Ernest Renan]] ac ''On the Study of Celtic Literature'' (1867) [[Matthew Arnold]].<ref>Davies ''Y Celtiaid'' tt. 171-7</ref>
 
Cynhaliwyd cyngres Ban-geltaidd yn [[Sant-Brieg]] yn [[1867]], wedi ei threfnu gan [[Charles de Gaulle (llenor)|Charles de Gaulle]], ewythr y cadfridog adnabyddus. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf [[Y Gyngres Geltaidd]] yn [[1917]], a sefydlwyd mudiad mwy gwleidyddol, yr [[Undeb Celtaidd]], yn [[1961]]. Y gwledydd Celtaidd yn ôl y ddau sefydliad yma yw [[yr Alban]], [[Cernyw]], [[Cymru]], [[Iwerddon]], [[Ynys Manaw]], a [[Llydaw]].<ref>[http://www.celticleague.org/ Gwefan yr Undeb Celtaidd]</ref> Rhain yw'r gwledydd lle siaredir iaith Geltaidd neu lle siaredid iaith Geltaidd hyd yn gymharol ddiweddar. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig [[Galicia]] yn [[Sbaen]], ac mae [[Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient]] yn cydnabod Galicia ac [[Asturias]] fel gwledydd Celtaidd.<ref>[http://www.festival-interceltique.com/?nav=E Safle We Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient]</ref>
Llinell 187:
[[Delwedd:Flag fen roundhouse.jpg|bawd|200px|Atgynhyrchiad o dŷ crwn o Oes yr Haearn yn Flag Fen, Lloegr. Dadleuir fod y gwahaniaeth rhwng y math yma ar dŷ a thai sgwâr neu hirsgwar y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop yn arwyddocaol.]]
 
Oddeutu ail hanner y 1990au dadleuodd rhai archeolegwyr, megis John Collis a Simon James, na ddylid cyfeirio at boblogaeth Ynys Prydain ac Iwerddon yn Oes yr Haearn fel "Celtiaid". Sail eu dadl yw nad oes cofnod o'r defnydd o'r gair "Celt" gan neb o drigolion yr ynysoedd hyn amdanynt eu hunain cyn gwaith Pezron a Lhuyd ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif, ac nad oes unrhyw awdur clasurol yn cyfeirio atynt fel "Celtiaid", gyda Strabo yn gwahaniaethu rhwng trigolion Prydain a'r ''Celti''. Maent yn nodi hefyd fod cryn nifer o wahaniaethau rhwng Prydain ac Iwerddon a'r cyfandir, megis y defnydd o dai crwn yn hytrach na sgwâr.
 
Er bod Simon James, er enghraifft, yn pwysleisio nad yw hyn yn golygu fod y defnydd o'r gair "Celt" am drigolion presennol gwledydd megis Iwerddon, Cymru a Llydaw yn annilys, bu beirniadu llym ar y ddadl gan rai ysgolheigion eraill, er enghraifft Ruth a Vincent Megaw. Awgrymwyd mai sail y ddadl oedd gelyniaeth Seisnig tuag at [[datganoli|ddatganoli]] ac integreiddio Ewropeaidd. Barn [[John Davies (hanesydd)|John Davies]] ar hyn yw:
Llinell 231:
* John Collis ''The Celts: origins & inventions'' (Stroud: Tempus, 2003) ISBN 0752429132
* Simon James ''The Atlantic Celts : ancient people or modern invention?'' (Llundain: Amgueddfa Brydeinig, 1999) ISBN 0714121657
 
 
 
[[Categori:Y Celtiaid| ]]