Ysbryd Perthynol (cerflun): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Llinell 12:
 
===Haelioni'r Choctaw===
Wedi eu cyffwrdd gan newyddion o newyn yn Iwerddon, casglodd grŵp o bobl Choctaw yn Oklahoma $170, (gwerth tua $4,300 / £3,000 yn 2016) <ref>[http://www.shovelbums.org/index.php/r-joe-s-blog/entry/kindred-spirits-sculpture-in-cork-ireland-to-honor-choctaw-who-helped-irish-settlers-during-famine "Kindred Spirits" sculpture in Cork, Ireland to honor Choctaw who helped Irish settlers during famine] adalwyd 23 Mawrth 2016</ref> o'u hadnoddau prin a'i gyfrannu i elusen i gefnogi'r newynog. Efallai bod cydymdeimlad y brodorion Americanaidd yn deillio o gydnabod y tebygrwydd rhwng profiadau'r Gwyddelod a'r Choctaw. Yn sicr dyna farn y Choctaw gyfoes. Maent yn nodi bod y ddau grŵp yn ddioddefwyr o goncwest a arweiniodd at golli eiddo, mudo gorfodol, newyn torfol, alltud, ac atal diwylliannol (yn fwyaf nodedig lladd iaith brodorol).<ref>[https://stairnaheireann.wordpress.com/tag/bailic-park/ 1847 – Choctaw Indians collect money to donate to starving Irish Hunger victims] adalwyd 23 Mawrth 2016</ref>
 
==Y Cerflyn==
 
Cafodd y cerflun ei greu gan Alex Pentek yn y Ffatri Cerflun [[Corc]], a'i osod ym Mharc Bailic yn 2015.
 
Mae'r cerflun yn darlunio naw pluen eryr dur 20 troedfedd (6.1 m) o uchder wedi eu trefnu mewn cylch i gynrychioli powlen wag symbolaidd o'r newynog yn Iwerddon a'r plu eryr a ddefnyddir mewn defodau seremonïol Choctaw.<ref>[http://indiancountrytodaymedianetwork.com/2015/03/09/huge-sculpture-commemorating-choctaw-kindness-takes-shape-ireland-159533 Huge Sculpture Commemorating Choctaw Kindness Takes Shape in Ireland] adalwyd 23 Mawrth 2016</ref>