Paleoddaearyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Môr Tethys
B clean up
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Pangaea to present cy.svg|bawd|310px|Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol'.]]
Astudiaeth o [[daearyddiaeth|ddaearyddiaeth]] hanesyddol yw '''Paleoddaearyddiaeth'''<ref>[http://geiriadur.bangor.ac.uk/#palaeogeography&sln=en Geiriadur Bangor;] adalwyd 21 Awst 2016.</ref> Mae'n canolbwyntiuo ar dirffurfiau ffisegol ond gall hefyd ymwneud â'r astudiaeth o [[bod dynol|fodau dynol]] yn eu [[amgylchedd|hamgylchedd]]. Pan astudir y cyntaf o'r rhain: daearyddiaeth hanesyddol, yna gellir defnyddio'r term '''Paleogeomorffoleg'''.
 
Drwy ymchwil Paleoddaearyddol, ceir gwybodaeth wyddonol mewn sawl maes e.e. mae'r dadansoddiad Paleoddaearyddol o fasnau gwaddodol (''sedimentary basins'') yn faes allweddol o fewn daeareg petroliwm, gan fod yr amgylcheddau hynafol wyneb y Ddaear wedi eu cadw o fewn cofnodion y stratigraffeg.
 
Drwy astudio'r amgylchedd gwaddodol a gysylltir â [[ffosil]]iau ceir darnau coll o'r jig-so enfawr hwnnw a elwir yn [[esblygiad]] a sut a pham y [[Difodiant|difodwyd]] cymaint o [[rhywogaeth|rywogaethau]] dros y milenia. Felly hefyd gyda'r ymchwil i sut y datblygodd y [[drifft cyfandirol]], datblygiad cysyniadau amrywiol am [[tectoneg platiau|dectoneg platiau]] a gwybodaeth newydd am siap a lleoliad [[uwchgyfandir]]oedd megis y [[Pangaea]] a chefnforoedd hynafol fel y [[Panthalassa]] a'r [[Môr Tethys]]. Drwy'r astudiaeth hyn, gall gwyddonwyr ail-greu model o gyfandiroedd a chefnforoedd y Ddaear [[cynhanes]].
Llinell 8:
==Gweler hefyd==
*Yr [[uwchgyfandir]]oedd: [[Gondwana]], [[Lawrasia]] a [[Pangaea]].
*Gweler hefyd y [[Cyfnod (daeareg)|cyfnodau]]: [[Permaidd]], [[Triasig]], [[Jwrasig]] a'r [[Cretasaidd]].
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 17:
 
{{Cyfandiroedd y Ddaear}}
 
[[Categori:Daearyddiaeth hanesyddol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]