Llanfarchell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 60:
}}
Ystyrir '''Eglwys y Santes Marchell''' (hefyd '''yr Eglwys Wen''' neu '''Llanfarchell''') yn un o'
Mae'r eglwys yn ffinio gydag [[Afon Clwyd]], oddeutu 1.5 km i'r de-dwyrain o dref Dinbych, i gyfeiriad [[Bryniau Clwyd]], ar lawr gwastad Dyffryn Clwyd. Yn 1254 cyfeirir ati fel ''L(l)annvarcell''.<ref>[http://www.cpat.org.uk/ycom/denbigh/llanfarchell.pdf Adroddiad gan CPAT cpat.org.uk;] adalwyd 28 Mawrth 2017.</ref> Yn wreiddiol, Llanfarchell oedd prif eglwys, sef eglwys y plwyf, i Ddinbych, cyn codi eglwysi eraill yn y dref. Ni ddatblygodd Dinbych ryw lawer hyd at ddiwedd y [[13g]]. Yn ôl rhai, dyma un o'r eglwysi plwyf mwyaf urddasol o'r [[Oesoedd Canol]] cynnar, ac fel llawer o eglwysi Dyffryn Clwyd mae ganddi ddau gorff. Ceir ffenestri lliw hefyd o'r Canol Oesoedd a chofebau i fawrion Sir Ddinbych gan gynnwys [[Humphrey Llwyd]] (m.1568) a [[Richard Myddelton]] (m.1575). Roedd yma ar un adeg [[ffynnon]] sanctaidd a phoblogaidd iawn, sydd bellach o dan cylchdro'r ffyrdd, ar y ffordd i [[Rhuthun|Ruthun]].<ref>[http://medieval-wales.com/site_31_denbigh.php medieval-wales.com;] adalwyd 28 Mawrth 2017.</ref> Yma hefyd mae bedd [[Twm o'r Nant]].
Ceir santes arall, ar wahân i Farchell sant o'r enw ''Marcellus''. Ni cymysgu'r eglwys hon chwaith, gydag [[Ystrad Marchell]], [[cwmwd]] ym [[Powys Wenwynwyn|Mhowys Wenwynwyn]].
|