Idris Gawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g using AWB
Llinell 16:
 
==Cerrig Esgid Idris==
Ar ffordd yr [[A487]] - rhwng Tafarn y Cross Foxes a [[Corris|Chorris]] mae yna nifer o gerig anferth ar ochr y lôn a symudwyd yno, yn ôl pob tebyg, wrth i'r iâ toddi ar ddiwedd [[Oes yr Iâ]] diwethaf. Yn ôl chwedloniaeth leol cerrig a daflodd Idris Gawr allan o'i esgidiau ydynt, wrth iddo deimlo'n anghyffyrddus wrth gerdded o'i gader i fynd i ymofyn diod o ddŵr o [[Llyn Mwyngil|Lyn Mwyngil]]<ref>[http://hdl.handle.net/10107/2610445 ''Rhyfeddodau natur''; Cymru'r Plant Cyf VII Rhif 77 Mai 1898] adalwyd 11 Ebrill 2017</ref>
 
==Telynor cyntaf Cymru==
 
Yn ôl un o ffug [[Trioedd Ynys Prydain|trioedd]] [[Iolo Morgannwg]], Idris ddyfeisiodd y delyn gyntaf. ''Tri chysefin bardd Ynys Prydain. Idris Gawr yr hynaf ac ef a wnaeth y delyn gyntaf, Eidiol Gleddyfrudd Yr Arch Dderwydd a Manogan Amherawdwr, tad Beli Gawr''.<ref>[https://journals.library.wales/view/1277425/1282883/49#?xywh=504%2C309%2C1979%2C1685 ''Bardd y Brenin, Iolo Morganwg a derwyddaeth'' Cylchgrawn LlGC Cyf. 14, rh. 4 1 Rhagfyr 1966] adalwyd 11 Ebrill 2017</ref>. Er bod hynafiaeth trioedd Iolo wedi ei brofi'n dwyll bellach, mae'r stori am Idris y telynor yn dal yn rhan o chwedloniaeth bro Idris<ref>[http://hdl.handle.net/10107/1361467 ''Hen Gerddorion Dolgellau'' Cymru cyf 34, 1908] adalwyd 11 Ebrill 2017</ref>.
 
==Cyfeiriadau==