Agor y brif ddewislen

Cawr a gysylltir ag ardal Cader Idris ym Meirionnydd oedd Idris Gawr neu Idris.

Yn ôl y rhestr o gewri Cymru a luniwyd gan yr hynafiaethydd Siôn Dafydd Rhys tua diwedd yr 16g, Idris oedd y pennaf o bedwar cawr oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas Dolgellau (Ysgydion, Offrwm ac Ysbryn oedd enwau'r lleill, a cheir yr enwau ar fryniau yn y cylch heddiw).

Ceir bryngaer o'r enw Caer Idris ar Ynys Môn, ond ymddengys nad oes traddodiad ar glawr i'w chysylltu ag Idris Gawr.

Cader IdrisGolygu

Cysylltir Idris â'r mynydd sy'n dwyn ei enw i'r dwyrain o Ddolgellau. Byddai'n arfer mynd i gwm uchel ar y mynydd ac eistedd yno i astudio'r sêr, a dyna sut y cafodd y copa yr enw Cader Idris, yn ôl y chwedl. Dywedir hefyd y byddai unrhyw un a dreuliai'r noson ar gopa Cader Idris ar ei ben ei hun yn dod i lawr yn y bore yn wallgo neu'n fardd. Ceir 'Gwely Idris' ar y mynydd ger Llyn y Gader hefyd.

Cadair ArthurGolygu

Yn y 19g, bu ehangu ar y rheilffyrdd a thrwy hynny ehangu ar y diwydiant twristaidd. Gan fod diwydiant y Brenin Arthur yn denu twristiaid, ceisiwyd honni bod yr enw Idris yn ffurf amgen Gymreig am Arthur, ac mae Arthur's Seat oedd Cader Idris yn y Saesneg. Dyma sy'n gyfrifol am yr or gyfieithu o Gader Idris i Gadair Idris.[1]

Idris ap GwyddnoGolygu

Brenin Cantref Meirionnydd oedd Idris ap Gwyddno. Mae'n debyg mae ei hanes ef oedd sylfaen mytholeg Idris y Cawr a'i gadair ger Dolgellau.[2]

Cerrig Esgid IdrisGolygu

Ar ffordd yr A487 - rhwng Tafarn y Cross Foxes a Chorris mae yna nifer o gerig anferth ar ochr y lôn a symudwyd yno, yn ôl pob tebyg, wrth i'r iâ toddi ar ddiwedd Oes yr Iâ diwethaf. Yn ôl chwedloniaeth leol cerrig a daflodd Idris Gawr allan o'i esgidiau ydynt, wrth iddo deimlo'n anghyffyrddus wrth gerdded o'i gader i fynd i ymofyn diod o ddŵr o Lyn Mwyngil[3]

Telynor cyntaf CymruGolygu

Yn ôl un o ffug trioedd Iolo Morgannwg, Idris ddyfeisiodd y delyn gyntaf.

Tri chysefin bardd Ynys Prydain:
Idris Gawr yr hynaf ac ef a wnaeth y delyn gyntaf,
Eidiol Gleddyfrudd Yr Arch Dderwydd
a Manogan Amherawdwr, tad Beli Gawr.[4].

Er bod hynafiaeth trioedd Iolo wedi ei brofi'n dwyll bellach, mae'r stori am Idris y telynor yn dal yn rhan o chwedloniaeth bro Idris[5].

CyfeiriadauGolygu

  1. Syr John Rhŷs; Celtic Folkelore Welsh and Manx Cyf 1 T 203
  2. Smith, J B a Smith, Ll B; T4 History of Merioneth Volume II Gwasg Prifysgol Cymru 2001 ISBN0-7083-1709-X
  3. Rhyfeddodau natur; Cymru'r Plant Cyf VII Rhif 77 Mai 1898 adalwyd 11 Ebrill 2017
  4. Bardd y Brenin, Iolo Morganwg a derwyddaeth Cylchgrawn LlGC Cyf. 14, rh. 4 1 Rhagfyr 1966 adalwyd 11 Ebrill 2017
  5. Hen Gerddorion Dolgellau Cymru cyf 34, 1908 adalwyd 11 Ebrill 2017
  • Siôn Dafydd Rhys, 'Olion Cewri', yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)
  • T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg. newydd 1979)

Gweler hefydGolygu