Llyfrgell Alexandria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
cyf paragr o en, er mwyn cael cyfeiriad
Llinell 4:
Cafodd y Llyfrgell ei chreu gan Ptolemy I Soter, cadfridog o [[Macedonia (rhanbarth)|Facedonia]] ac olynydd [[Alecsander Fawr]]. Cadwyd y rhan fwyaf o lyfrau fel sgroliau [[papyrus]]. Ni wyddir i sicrwydd faint o sgroliau oedd yn cael eu cadw yno ar un adeg, ond mae amcangyfrifon yn amrywio o 40,000 i 400,000 pan oedd y Llyfrgell ar ei hanterth.
 
Mae'n debyg mai hyn sy'n gwneud y llyfrgell hon yn adnabyddus yw'r ffaith iddi gael ei llosgi'n i lawrulw gan arwain at golli nifer fawr o'r sgroliau a llyfrau; mae ei dinistrio wedi dod yn symbol o golli gwybodaeth ddiwylliannol. Nid oes sicrwydd pryd y cafodd y Llyfrgell ei llosgi na phwy a wnaeth, ac mae'n bosib bod y Llyfrgell wedi wynebu sawl tân dros lawer o flynyddoedd.
 
==Strwythur==
Ni wyddus sut yn union osodiad yr adeilad, ond ceir hen ddogfennau sy'n nodi fod yma gasgliadau o sgroliau, colofnau Groegaidd, peripatos, ystafell fwyta, ystafell ddarllen, ystafell gyfarfod a neuaddau darlithio. Roedd strwythur yr adeilad, o ran ei bensaerniaeth, felly, yn rhagflaenu prifysgolion. Gwyddom hefyd fod yma ystafell bwrcasu ac ystafell i gatalogio'r gweithiau a bod yma silffoedd a oedd yn dal casgliadau o sgroliau brwynbapur a elwid yn ''βιβλιοθῆκαι'' ('bibliotecai'). Ysgrifennwyd mewn llythrennau mawr uwch y silffoedd y geiriau, 'Yn y fan hon ceir gwellad yr enaid'.''<ref name="Alberto2008">Manguel, Alberto, The Library at Night. New Haven: Yale University Press, 2008, t. 26.</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Llyfrgelloedd]]