Cwmwlws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'thumb|Cymylau cumulua Cymylau bychan gwyn gwlanog yw cumulua (neu '''cwmwlws''') a welir ar gefndir o awyr las ac a elwir,...' |
manion |
||
Llinell 1:
[[File:GoldenMedows.jpg|
[[File:2014-05-29 17-19-06 timelapse-nuages-belfort.ogv|bawd|Fideo cyflym o ''Cumulus humilis'' yn ffurfio, yn carlamu ac yn diflannu, ar ddiwrnod poeth.]]
[[
==Enwau eraill==
Enwau eraill arnynt yw 'cymylau defaid' am eu bod yn weddol grwn a gwasgaredig – yn debyg i braidd yn pori'r llechweddau. Oherwydd eu diniweidrwydd, mae'n debyg, cawsant eu cyffelybu yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] â'r [[Seintiau]]: 'Seintiau tywydd braf' dros [[Ynys Môn]] (o [[Waunfawr]]) a 'Seintiau [[Aberdyfi]]' dros Fae [[Ceredigion]] (o [[Cricieth|Gricieth]]). Ond hawdd iawn y gall y diniwed newid ei natur
Pan gyfyd gwyntoedd stormus o'r de orllewin â'r cymylau bychain yn carlamu ar draws yr awyr o'r cyfeiriad hwnnw fe'u gelwir yn 'feirch y ddrycin' a 'merlod Hafnant' yn ardal [[Ysbyty Ifan]], sy'n gyfeiriad at Fynydd Hafnant ym mhen ucha'r cwm. Os ydynt yn cynyddu ac ymledu gallant fod yn un o'r arwyddion cyntaf bod glaw ar ei ffordd. Enw arnynt yn ardal y [[Bala]] pan maent yn dechrau ymddangos yw 'cymylau pennau cŵn'. Os parhânt i gynyddu a phentyrru deuant i edrych fel blodfresych mawr bolddu ac ymhen ychydig oriau yn gymylau terfysg. Ceir dywediad am hynny o ogledd [[Ceredigion]]: 'Pen ci bore o wanwyn, uchel gynffon buwch cyn nos.' Yr 'uchel gynffon buwch' yn cyfeirio at y gwartheg yn 'stodi, neu'n rhedeg â'u cynffonnau'n syth i'r awyr, fel y gwnânt ar dywydd trymaidd cyn storm o felt a thrannau yn yr haf.
Pan fydd yr awyr y tu cefn neu uwchben y Cumulus bychain yn dechrau llenwi â haenau o gymylau llwydion, bydd cysgod y cymylau uchel yn troi'r rhai isel yn dywyll iawn. Disgrifir hynny yn yr enwau: 'cŵn duon [[Dinbych]]' (Penmachno) am gymylau bach duon ddeuant cyn storm, tra ym Môn ceir y disgrifiad: 'defaid duon dan do' am gymylau bychain yn symud o dan nenfwd llwyd yr haenau uwch.
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{Priodoliad Twm Elias|''Llên Gwerin''|Cymdeithas Edward LLwyd}}
[[Categori:Cymylau]]
|