Cwmwlws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Cyfuno gydag erthygl fechan a oedd yn bodoli'n barod: Cwmwl cwmwlws
Llinell 1:
[[File:GoldenMedows.jpg|bawd|Cymylau 'meirch y ddrycin']]
[[File:2014-05-29 17-19-06 timelapse-nuages-belfort.ogv|bawd|Fideo cyflym o ''Cumulus humilis'' yn ffurfio, yn carlamu ac yn diflannu, ar ddiwrnod poeth.]]
[[Cwmwl]] bychan gwyn gwlanog yw '''cwmwlws''' (neu'n wyddonol: '''''cwmulus'''''; ar lafar - '''Seintiau tywydd braf''', '''meirch y ddrycin''' ayb) a welir ar gefndir o awyr las ac a elwir, yn addas iawn, yn 'gymylau tywydd braf'. Anaml maent yn ffurfio'n uwch na 2,000 m (6,600 tr) o'r Ddaear, oni bai eu bod yn y ffurf unionsyth ''cumulus congestus''. O'r gair [[Lladin]] ''cwmwlws'' y daw'r gair Cymraeg '[[cwmwl]]'; ystyr ''cumulo'' ydy "tomen" yn yr iaith [[Lladin|Ladin]].
 
Mae'n bosib i gymylau cwmwlws ymddangos ar eu pennau eu hunain, mewn llinellau neu mewn clystyrau. Mae cymylau cwmwlws yn aml yn rhagflaenyddion i fathau eraill o gymylau, fel ''cumulonimbus'', pan mae wedi ei ddylanwadu gan ffactorau tywydd fel [[Ansefydlogrwydd atmosfferig|ansefydlogrwydd]], lleithder a graddiant. Mae cymylau cwmwlws yn rhan o gategori ehangach o gymylau ffurf cwmwlws, sy'n cynnwys [[Cwmwl stratocwmwlws|cymylau stratocwmwlws]], [[Cwmwl cwmwlonimbws|cymylau cwmwlonimbws]], a [[Cwmwl siro-cwmwlws|chymylau siro-cwmwlws]].<ref>{{cite web|url=http://www-das.uwyo.edu/~geerts/cwx/notes/chap08/cumuliform.html|title=Cumuliform clouds: some examples|accessdate=8 Tachwedd 2011}}</ref>
==Enwau eraill==
 
==Enwau eraill==
Enwau eraill arnynt yw 'cymylau defaid' am eu bod yn weddol grwn a gwasgaredig – yn debyg i braidd yn pori'r llechweddau. Oherwydd eu diniweidrwydd, mae'n debyg, cawsant eu cyffelybu yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] â'r [[Seintiau]]: 'Seintiau tywydd braf' dros [[Ynys Môn]] (o [[Waunfawr]]) a 'Seintiau [[Aberdyfi]]' dros Fae [[Ceredigion]] (o [[Cricieth|Gricieth]]). Ond hawdd iawn y gall y diniwed newid ei natur!