Estonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Manion canrifoedd gyda llygad a llaw! -, replaced: 20fed ganrif → 20g using AWB
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB
Llinell 62:
Mae tiriogaeth Estonia yn cynnwys 2,222 o ynysoedd yn y Mor Baltig yn ogystal â'r tir mawr, a chyfanswm ei harwynebedd yn 45,339 cilomedr sgwar (17,505 milltir sgwar).
 
Mae pobl wedi byw yn nhiriogaeth Estonia ers o leiaf 6,500 o flynyddoedd. Dros y canrifoedd, fe'i rheolwyd gan yr Almaen, Denmarc, Sweden a'r Rwsia yn eu tro. Bu deffroad cenedlaethol yn Estonia ar ddechrau'r 20g ac arweiniodd hynny at sicrhau annbyniaeth oddi ar ymerodraeth Rwsia yn 1918.
 
Yn ystod yr [[Yr Ail Ryfel Byd|Ail Ryfel Byd]], cafodd Estonia ei meddiannu gan yr [[Yr Undeb Sofietaidd|Undeb Sofietaidd]] yn 1940, ac yna yr Almaen Naziaidd y flwyddyn ganlynol, hyd nes iddi gael ei hadfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn 1944 a hynny fel y Weriniaieth Sofiet Sosialaidd Estonaidd.
 
Cafodd Estonia ei hannibyniaeth yn ôl ar 20 Awst 1991. Mae bellach yn weriniaeth seneddol unedol ddemocrataidd sydd wedi'i rhannu yn bymtheg sir. Y brifddinas, a'r ddinas fwyaf, yw Tallinn. Gyda phoblogaeth o 1.3 miliwn, Estonia yw un o aelod-wladwriaethau lleiaf poblog yr Undeb Ewropeaidd.
 
Mae Estonia yn wlad ddatblygiedig gydag economi flaengar, incwm uchel sydd ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ei [[Mynegai Datblygiad Dynol]] yn uchel iawn ac mae'n perfformio'n uchel iawn ar fesuriadau rhyddid economaidd, rhyddfreiniau a rhyddid y wasg. Roedd prawf [[Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr|PISA]] 2015 yn gosod ysgolion uwchradd Estonia yn drydydd yn y byd, ar ol [[Singapôr]] a [[Japan]]. Mae dinasyddion Estonia yn derbyn gwasanaeth iechyd, addysg am ddim, a'r cyfnod mamoilaeth hiraf gyda' thal yn yr OECD. Ers iddi gael ei hannibyniaeth, mae'r wlad wedi datblygu ei sector technoleg gwybodaeth yn gyflym, gan ddod yn un o gymdeithasau digidol mwyaf blaengar y byd. Yn 2005 daeth Estonia yn y genedl gyntaf i gynnal etholiadau ar y rhyngrwyd, ac yn 2014 y genedl gyntaf i ddarparu [[E-breswyliad]].
 
{{Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd}}