Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g, bedwaredd ganrif ar bymtheg → 19g (3) using AWB
Manion, replaced: yr oedd → roedd (5), Yr oedd → Roedd (2) using AWB
Llinell 11:
==Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru==
{{Prif|Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru}}
Yr oeddRoedd Cymru yn rhan o'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth Rufeinig]] am tua 350 o flynyddoedd. Cawsai'r Rhufeiniaid a'u diwylliant effaith sylweddol ar y wlad a'i phobl. Gadawodd y Rhufeiniaid [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|rwydwaith o ffyrdd]] ar eu hôl a sefydlasant nifer o drefi. Cafodd ei hiaith, [[Lladin]], ddylanwad mawr ar yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] wrth iddi ymffurfio o [[Ieithoedd Brythonaidd|Frythoneg Ddiweddar]]; mae tua 600 o eiriau Cymraeg yn tarddu o'r cyfnod hwnnw (yn hytrach nag o Ladin yr Oesoedd Canol fel yn achos ieithoedd eraill fel Saesneg). Credir i'r [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] gyrraedd Cymru yn y cyfnod Rhufeinig hefyd.
 
Roedd Cymru'n gartref i lwythau [[Y Celtiaid|Celtaidd]] fel y [[Silwriaid]] yn y de-ddwyrain a'r [[Gododdin (teyrnas)|Votadini]] yn y gogledd-orllewin, a'u tiriogaeth yn cyfateb yn fras i'r [[Teyrnasoedd Cymru|teyrnasoedd Cymreig]] cynnar a sefydlwyd ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid.
Llinell 21:
Daeth [[Cristnogaeth]] Cymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda thystiolaeth o Gristionogion mewn sefydliadau megis [[Caerwent]] a [[Caerleon|Chaerleon]] yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd [[Sant Dyfrig]] yn un o'r arweinwyr cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd. Ymhlith y seintiau enwocaf mae [[Dewi Sant]], [[Teilo]], [[Illtud]], [[Cadog]] a [[Deiniol]]. Roedd cysylltiadau agos rhwng Cymru ag [[Iwerddon]] a [[Llydaw]].
 
Ceir rhywfaint o wybodaeth am hanner cyntaf y [[6g]] yng ngwaith [[Gildas]], y ''De Excidio Britanniae'', sy’n bregeth mewn tair rhan yn condemnio pechodau’r [[Brythoniaid]] yn ei oes ef ac yn awgrymu mai oherwydd y pechodau hyn yr oeddroedd y [[Sacsoniaid]] wedi goresgyn rhan helaeth o’r ynys. Mae’n condemnio pum teyrn yn arbennig, yn cynnwys [[Maelgwn Gwynedd]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], y mwyaf grymus o'r pump.
 
==Yr Oesoedd Canol yng Nghymru==
Llinell 66:
 
[[Delwedd:Richard Wilson - Snowdon from Llyn Nantlle - Google Art Project.jpg|200px|bawd|"[[Yr Wyddfa]] o [[Llyn Nantlle|Lyn Nantlle]]", dyfrlliw gan [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]]]]
Dyma'r ganrif pan oedd y [[Diwygiad Methodistaidd]] mewn bri gyda phobl fel [[Howel Harris]], [[William Williams Pantycelyn]] a [[Daniel Rowland]] yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd [[ysgolion cylchynol]] [[Griffith Jones]] yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith [[Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol|Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]] (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif yr oeddroedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfwyr]] o ryw fath, ond arhosai nifer yn ffyddlon i'r [[Eglwys Loegr|Eglwys]] yn ogystal.
 
Roedd y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn [[Cymry|Gymry]] uniaith [[Gymraeg]] o hyd a'r rhan fwyaf yn byw mewn pentrefi a threfi bach [[cefn gwlad]]. Roedd caneuon gwerin a barddoniaeth rydd yn boblogaidd, yn arbennig adeg y gwyliau mawr fel y [[Gwylmabsant|Gwyliau Mabsant]]. Yn ail hanner y ganrif roedd yr [[anterliwt]] ar ei hanterth a phobl yn tyrru i'r llwyfan yn y ffeiriau, yn arbennig yn siroedd y gogledd-ddwyrain. Cafwyd tyfiant mawr yn y nifer o lyfrau a gyhoeddwyd ynghyd â gwawr [[newyddiaduriaeth]] yng Nghymru gydag ymddangosiad y [[cylchgrawn|cylchgronau]] cyntaf. Gosodwyd sylfeini'r [[Eisteddfod Genedlaethol]] gyda gwaith y [[Gwyneddigion]] yn [[Llundain]] ac yn y cylchoedd llenyddol cafwyd math o Ddadeni gyda bri ar bopeth [[Celtiaid|Celtaidd]] ac ail-ddarganfod meistri'r gorffennol fel [[Dafydd ap Gwilym]] a'r [[Gogynfeirdd]] diolch i waith [[Goronwy Owen]], [[Ieuan Fardd]] a [[Morrisiaid Môn]]. Dechreuodd teithwyr ymweld â'r wlad a gwerthfawrogi ei thirwedd "gwyllt" - y [[twristiaeth|twristiaid]] cyntaf - ac ymledodd dylanwad y [[Mudiad Rhamantaidd]] ar lenorion ac artistiaid y wlad, fel yr arlunydd enwog [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]].
Llinell 74:
Roedd y 19g yn gyfnod o newid mawr ym mywyd y wlad. Dyma ganrif y [[Siartwyr]] a [[Dic Penderyn]], [[Brad y Llyfrau Gleision]] a [[Helyntion Beca]].
 
Cafwyd newidiadau ym myd [[amaethyddiaeth]] yn ystod ail hanner y [[18fed ganrif|ddeunawfed ganrif]], yn arbennig gyda dechrau [[cau'r tiroedd comin]]. Erbyn y 19g roedd y tirfeddianwyr yn codi rhenti mwy ar eu tenantiaid, ac yr oeddroedd gwasgfa ar y ffermwyr oedd yn berchen eu tir i werthu i'r tirfeddianwyr mawr. Roedd cau'r [[tir comin]] yn amddifadu'r ffermwyr o dir pori hanfodol. Mewn gair yr oeddroedd [[tlodi]] dybryd yng [[Cefn gwlad|nghefn gwlad]], a hynny pan oedd yna gynnydd yn y boblogaeth.
 
[[Delwedd:Select Sketches - Menai Bridge 2.jpg|200px|bawd|Agorwyd [[Pont y Borth]] ar [[Afon Menai]] yn [[1826]] (plât Tsieineaidd o'r 1840au)]]
Llinell 90:
Yn chwarter cyntaf y ganrif roedd Cymru yn wlad [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Ryddfrydol]] o ran ei [[gwleidyddiaeth]]. Ond y [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] oedd y blaid rymusaf yng Nghymru o'r [[1930au]] ymlaen. Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] a [[Cymdeithas yr Iaith|Chymdeithas yr Iaith]] a sefydlwyd [[Y Swyddfa Gymreig]] yn [[1964]] a [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Chynulliad Cenedlaethol Cymru]] ym [[1999]].
 
Erbyn [[1911]] roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y [[rheilffyrdd]] ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r 20g disodlwyd [[haearn]] gan [[dur|ddur]] fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Yr oeddRoedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith [[copr]] yn [[1911]] ac 21,000 mewn gwaith [[tun]]. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blât tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o [[glo|lo]] yn [[1913]]. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo'r byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo'r de a'r gogledd-ddwyrain. Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]], yn arbennig yn y meysydd glo. Ym 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn [[1960]] dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn [[1979]]. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au. Roedd dirywiad tebyg yn y [[diwydiant dur]] ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwyfwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth. Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd [[trychineb Aberfan]], pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.
 
Yn [[1911]] roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad [[Cymraeg]]. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o Gymry ifainc yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]] ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng [[1921]] a [[1939]].
 
Ar droad y ganrif yr oeddroedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o [[eglwys]]. Yn [[1900]] roedd gan y [[Methodistiaid Calfinaidd]] 158,111 o aelodau, yr [[Annibynwyr]] 144,000 a'r [[Bedyddwyr]] 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlun o ddirywiad enbyd a geir.
 
== 21ain ganrif ==