Hannah Arendt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
→‎Totalitariaeth: Manion, replaced: yr oedd → roedd using AWB
Llinell 14:
Mewn trefn dotalitaraidd mae popeth yn bosib ar yr amod fod yr awdurdod uchaf, yr enghreifftiau mae Arendt yn rhoi ydy Hitler a Stalin eu hunain, yn cael dominyddu'n llwyr. Noda Canovan '...the path to this goal, discovered separately by Hitler and by Stalin, lies through terror on the one hand and ideology on the other'. Yr ideoleg fan yna, yn fy marn i, sy'n gyrru'r brawychiaeth. Roedd Arendt o'r farn fod eidioleg y symudiad totalitaraidd yn un tu hwnt o beryglus oherwydd fe roddai bwyslais ar yr hyn oedd, yn eu tyb hwy ac yn nhyb y rhai a'i dilysant, yn gwneud synnwyr. Er enghraifft byddai Stalin, trwy ei ideoleg, yn rhoi pwyslais mawr ar yr ymrafael rhwng y dosbarthiadau ac felly yn portreadu y Bwrglais fel y gelyn pennaf. Ag ystyried hynny felly yr hyn oedd yn 'gwneud synnwyr' i gyfundrefn Stalin oedd difa/llofruddio pob aelod o'r Bwrglais. O safbwynt y totalitarwyr roedd y cyfan yn gwneud synnwyr ond yr hyn sydd wedi digwydd yw fod totalitariaeth wedi ymddieithrio ideoleg oddi wrth synnwyr cyffredin a realiti.
 
Fe roddai Arendt sylw i'r pwyslais rhoddai arweinwyr totalitaraidd ar reidrwydd hanesyddol. Gwelai Arendt eu bod nhw'n gweld ideoleg fel y ffordd i esbonio'r dyfodol yn ogystal a'r gorffennol, dysgant hyn i'w dilynwyr fel ffeithiau nid ideoleg yn ei ystyr draddodiadol o fod yn gysyniad dadleuol (contested concept). Felly yr unig beth yr oeddroedd trefn dotalitaraidd yn ei gwneud oedd gweinyddu'r 'ffeithiau' hanesyddol yma.
 
Dyna gyffwrdd yn fras iawn ar ymdriniaeth Arendt ar dotalitariaeth a throi yn ôl i edrych ar yr 'origins'. Dim ond trydydd rhan o 'The Origins of Totalitarianism' sy'n delio yn uniongyrchol gyda thotalitariaeth; ond mae dau rhan gyntaf y gwaith yn gosod y llwyfan. Noda Arendt mae dilynwyr mwyaf totalitariaeth oedd y “massess”; pobloedd gwerinol oedd wedi colli ymddiriedaeth yn eu llywodraethau, pobl di-waith oedd yn wynebu caledi, i'r bobl yma roedd Hitler yn atyniadol iawn. Ond nid yw Arendt yn ceisio esbonio gwraidd totalitariaeth yn y ffordd draddodiadol y gwna haneswyr wrth esbonio sut daeth Hitler i rym yng ngwyneb sefyllfa socio-economaidd yr Almaen. Oherwydd fel y noda Canovan: