Hen Wlad fy Nhadau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ja:我が父祖の土地
chydig chwaneg
Llinell 1:
'''Hen Wlad fy Nhadau''' yw anthem genedlaethol [[Cymru]]. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan [[Evan James]] (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab [[James James]] (1833-1902) ym mis Ionawr [[1856]]. Roedd y ddau yn drigolion o [[Pontypridd|Bontypridd]].
 
Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, [[Maesteg]] unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn [[Eisteddfod]] [[Llangollen]], [[1858]], ar ôl i [[Thomas Llewelyn]] o [[Aberdâr]] ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn [[Rhuthun]] y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn a ddefnyddir heddiw yn gaffi 'Siop Nain'.
 
Gwnaed y recordiad [[Cymraeg]] cyntaf, sydd yn hysbys, yn [[Llundain]] ar 11 [[Mawrth]] [[1899]], pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]].
 
Defnyddir fersiynau o’r anthem gan [[Cernyw|Gernyw]], ''Bro goth agan tasow'' ac yn [[Llydaw]] ers [[1902]], ''Bro Gozh ma Zadoù''. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn [[India]] yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw ''Ri Khasi'', ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.
 
Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan [[Tich Gwilym]] yn null Jimi Hendrix.
 
Ffilmiwyd ymdrechion tila [[John Redwood]] i'w chanu - ymdrech i gogio ei fod yn gwybod y geiriau, er nad oedd. Defnyddir y clip hwn yn aml fel esiampl o ddiffyg ymdrech rhai Saeson i gymhathu i'r bywyd Cymraeg.
 
==Geiriau==