Marion Eames: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Nofelau ar gyfer oedolion: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB |
B →Bywyd a gwaith: Ardddull a manion sillafu, replaced: Yr oedd → Roedd (2) using AWB |
||
Llinell 36:
Fe'i ganwyd i rieni Cymreig, ym [[Penbedw|Mhenbedw]], [[Lloegr]], ond fe'i magwyd yn [[Dolgellau|Nolgellau]], [[Meirionnydd]] er yn 4 oed. Dywedodd yn ddiweddarach mai ychydig o Gymraeg oedd ganddi pan symudodd i Ddolgellau. Ni allodd droi at siarad Cymraeg yn rhugl nes iddi symud i [[Aberystwyth]] am gyfnod o waith. Roedd hi wedi gadael Ysgol Dr Williams, Dolgellau yn 16 oed. Cafodd swydd yn Llyfrgell y Sir, Dolgellau. Yno bu raid iddi ddarllen [[llenyddiaeth Gymraeg|llyfrau Cymraeg]], a hynny a barodd iddi werthfawrogi llenyddiaeth Cymru ac i ymfalchïo yn ei Chymreictod. Penderfynodd ei bod am fod yn rhugl yn y Gymraeg. Cafodd y cyfle i wneud hynny pan symudodd i weithio am gyfnod o 2 flynedd fel llyfrgellydd ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Bwrodd ati i ymarfer siarad Cymraeg gyda'u ffrindiau newydd yno gan gynnwys ar aelwyd yr [[Urdd Gobaith Cymru|Urdd]]. Magodd ddigon o hyder i ddal ati i siarad Cymraeg pan ddychwelodd i weithio yn llyfrgell Dolgellau eto, a hynny yn wyneb rhagfarn ei chydnabod yn Nolgellau oedd wedi arfer meddwl amdani fel Saesnes yn hytrach na Chymraes.
[[Delwedd:Y Stafell Ddirgel.jpg|bawd|150px|chwith|Clawr [[Y Stafell Ddirgel]]]]
Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifennwyr cynnar Pobl y Cwm. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, ''[[Y Stafell Ddirgel]]'', yn yr erthygl '[[Crynwriaeth yng Nghymru|Crynwyr Cymreig]] Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r [[Y Geninen|Geninen]] yn 1889.
Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu [[deialog]], a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986).</ref> Addaswyd ''Y Stafell Ddirgel'' a'r ''Rhandir Mwyn'' ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon [[drama deledu|dramau teledu]] Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.
|