Mons veneris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mewn [[anatomeg ddynol]] y '''mons Veneris''', y '''mons pubis''' neu'r '''mons Venus''' (gair [[Lladin]] sy'n golygu 'Mwnt [[Gwener (duwies)|Gwener]]') ydy'r bryncyn bychan o [[meinwe|feinwe]] a [[braster]] yn y rhan lle gorwedd y [[cedor]] a'r [[asgwrn pubic]]. Mae'n fwy amlwg mewn merched nag ydyw mewn dynion. Ar ôl [[glasoed]], pan fo llif yr [[estrogen]] yn gryf, caiff ei orchuddio â blewiach mân.
 
Mewn oedolyn, mae'r mons yn ymrannu'n [[labia majora]] ar bopty'r hollt hwnnw a elwir [[hollt Gwener]] sy'n amgylchynnu'r [[clitoris]], [[agoriad y wain]] a strwythurau eraill o fewn y [[fwlfafylfa]]. Mae'r mons Veneris, felly'n gwthio'r fwlfa allan oddi wrth y corff pan fo'r ferch yn sefyll.
 
Nid yw ei bwrpas yn wybodus i'r [[anatomeg ddynol|anatomegydd]], ond un posibilrwydd yw ei fod yn amlygu'r [[organnau rhywiol]], fel modd o geisio denu cymar.