Owain ab Urien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 17:
Yn ôl un traddodiad, roedd ganddo chwaer efaill o'r enw [[Morfudd ferch Urien|Morfudd]]. Mae Morfudd ac Owain yn ymddangos mewn hen [[llên gwerin Cymru|chwedl werin Cymraeg]] a gysylltir a [[Llanferres]], yn awr yn [[Sir Ddinbych]]. Gerllaw Llanferres roedd [[rhyd]] a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i [[Urien Rheged]] fynd, a darganfod merch yn golchi. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin [[Annwn]], a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyydyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, [[Owain ab Urien|Owain]] a Morfudd.
 
Nid yw'r ferch yn rhoi ei henw yn y chwedl, ond mae un o Drioedd Ynys Prydain (70) yn cyfeirio at Owain ab Urien a Morfudd ei chwaer fel plant Modron ferch Afallach. Uniaethir Modron a'r fam-dduwies [[Matrona]], oedd yn dduwies [[Afon Marne]] yng [[Gâl|Ngâl]] ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf. Gellir dosbarthu'r chwedl am Ryd-y-gyfarthfa (Llanferres]]) yn y dosbarth o chwedlau Celtaidd am 'olchwraig y rhyd' a duwies sofraniaeth.
 
==Cyfeiriadau==