Hela'r dryw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
B trwsio fandaliaeth
Llinell 3:
Defod ar ffurf gorymdaith (a chasgliad o ganeuon cysylltiedig) a geid yn y gwledydd Celtaidd oedd '''hela'r dryw''' (amrywiad: '''hela'r dryw bach''') a oedd yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu [[Lleu|duw'r goleuni]], drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn. Mae'n dilyn dydd byra'r flwyddyn, sef [[Alban Arthan]] ac yn ddathliad fod yr haul yn codi'n gynt, pob cam ceiliog ac o ailenedigaeth yr haul. Mae creu'r aderyn lleiaf yn symbol o'r haul, y duw mwyaf, yn eironig iawn. Mae ailactio marwolaeth ac ailenedigaeth yr haul mewn defod, fel hyn, yn digwydd mewn llawer o [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]]; ystyr y gair 'dryw' mewn sawl iaith yw 'brenin'. Daeth y traddodiad i ben yng ngwledydd Prydain, fwy neu lai oherwydd y Gymdeithas yn Erbyn Creulondeb i Anifeiliaid, yn dilyn ymgyrch ganddynt, yn ôl William S. Walsh yn ei lyfr ''Curiosities of Popular Customs''.
 
Crybwyllir y ddefod hon gyntaf yn 1696 (gweler isod).<ref>[http://piereligion.org/wrenkingsongs.html www.piereligion.org (gwefan 'Proto-Indo-European Religion ');] adalwyd 01 Rhagfyr 2015</ref> Ceir tystiolaeth o'r ddefod hefyd mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys [[Saesneg]] a [[Ffrangeg]]. Arferid ei chynnal drwy Ragfyr a dechrau Ionawr, hyd at [[Nos Ystwyll]] (6ed o Ionawr). Parhaodd y ddefod yn ddi-dor yn [[Iwerddon]], ac fe'i dathlwyd yn benodol ar y 26ain o Ragfyr ([[Gŵyl San Steffan]]).ecgfhfhvfcf
 
Dywed [[Edward Llwyd]] (1660-1709): "Arferent yn Swydd Benfro ayb ddwyn driw mewn [[elor]] ar Nos Ystwyll; oddi wrth gŵr ifanc at ei gariad, sef dau neu dri ai dygant mewn elor gyda rhubanau; ag a ganant garolion. Ânt hefyd i dai eraill lle ni bo cariadon a bydd cwrw ayb." Diflannodd yr arferiad hwn o Gymru oddeutu 1890.<ref>''Chwedlau Gwerin Cymru'' gan Robin Gwyndaf; Amgueddfa Werin Cymru 1995.</ref>
Llinell 29:
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Gweler hefyd ==