Aberdâr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Hanes: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 32:
Roedd Aberdâr yn sir hanesyddol [[Morgannwg]]. Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r Gymdeithas Gydweithredol yng Nghymru, ym 1860.
 
Yn wreiddiol, ddechrau'r [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]], roedd pentref Aberdâr mewn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfuwyd llawer o [[glo|lo]] a mwyn [[haearn]] yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac [[Abernant]] ym 1799 a 1800, wedi'u dilyn gan eraill yn Gadlys ac [[Aberaman]] ym 1827 a 1847. Nid yw'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, câi'r rhan fwyaf o'r glo ei ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond wedyn dechreuwyd allforio glo o dde Cymru. Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg19g, gwellodd y dref yn fawr.
 
Aberdâr oedd cartref un o feirdd yr [[Ail Ryfel Byd]], [[Alun Lewis]], ac mae dyfyniad o'i gerdd ''The Mountain over Aberdare'' i'w weld yn y dref. Dyma gartref y [[Stereophonics]] hefyd, sy'n dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna [[Aberdare (De Cymru Newydd)|Aberdare]] yn [[De Cymru Newydd|Ne Cymru Newydd]], [[Awstralia]], sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.