Llithfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Tyfodd y boblogaeth pan agorwyd nifer o chwareli [[gwenithfaen]] ar yr Eifl yn y [[19eg ganrif]]. Adeiladwyd llawer o dai newydd ac mae cyfrifiad [[1881]] yn dangos nifer fawr o fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Llŷn ei hun, o [[Penmaenmawr|Benmaenmawr]] a chyn belled â'r [[Alban]]. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, cyn agor chwareli llithfaen lleol fel yr un yn [[Nant Gwrtheyrn]], arferai nifer o dyddynwyr y plwyf ychwanegu at eu hincwm trwy dorri [[grug]] ar lethrau [[Tre'r Ceiri]] a'i gludo ar eu cefnau yn feichiau mawr i'w werthu fel tanwydd ym marchnad [[Pwllheli]] am 6 cheiniog y baich.<ref>D. T. Davies (gol.), ''Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn'' (Pwllheli, 1910).</ref>
 
Mae yno siop sydd yn gael ei rhedegredeg gan y gymuned a TafarnThafarn Y Fic, sydd hefyd yn cael ei rhedeg gan gwmni cydweithredol.
 
O bentref Llithfaen mae modd cyrraedd [[Nant Gwrtheyrn]] ar hyd lôn sy'n arwain tua'r gogledd i gyfeiriad y môr. Yma y sefydlwyd y Ganolfan Iaith Genedlaethol. Ar un o dri chopa'r Eifl mae [[bryngaer]] enwog [[Tre'r Ceiri]].