George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2il Farwn Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 4:
Roedd ei dad wedi bod yn Aelod Seneddol Toriaidd dros [[Sir Gaernarfon (etholaeth seneddol)|Sir Gaernarfon]] am chwarter canrif pan wnaed ef yn Farwn Penrhyn yn 1866. Gan ei fod ef yn awr yn symud i [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi]], y bwriad oedd i'w fab etifeddu ei sedd a'i safle yn y sir. Fodd bynnag yn etholiad 1868, curwyd ef yn annisgwyl gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, [[Love Jones-Parry]] o Fadryn. Er iddo ennill y sedd yn ôl yn 1874, credir fod hyn wedi ei chwerwi yn erbyn y chwarelwyr, oedd a thuedd gref i fod yn Rhyddfrydwyr.
 
Etifeddodd y teitl a'r ystad ar farwolaeth ei dad [[Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn]] yn 1886. Apwyntiodd E.A. Young yn rheolwr Chwarel y Penrhyn yn fuan wedyn, a buan y gwelwyd fod y dull o reoli wedi newid. Dilynwyd streic (neu'n hytrach gloi allan) o unarddeg mis yn 1896-7 gan y Streic Fawr o [[1900]] hyd [[1903]]. Yr oeddRoedd y ddwy ochr yn benderfynol o beidio ildio, ond yn y diwedd bu raid i'r chwarelwyr ddychwelyd i'r gwaith ar delerau Penrhyn. Ystyrir yr anghydfod yn ddechrau dirywiad [[diwydiant llechi Cymru]].
 
Ystyrid Barwn Penrhyn yn feistr tir blaengar a chymwynasgar i denantiaid oedd yn barod i ufuddhau iddo, ond yr oedd yn hollol ddigymrodedd ynglŷn â'i hawl i redeg ei chwarel yn ei ffordd ei hun a delio a'i weithwyr yn unigol yn hytrach na thrwy'r undeb.