Adnodd adnewyddadwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
4
deunyddiau
Llinell 3:
 
Mae adnoddau adnewyddadwy yn cynnwys gwybodaeth, pobl, [[ynni gwynt]], [[ynni solar]] a [[biomas]] sydd yn cael eu llosgi. Mae deunydd adnewyddadwy yn cynnwys [[pren]], [[dŵr]], [[awyr]], [[cwyr]], [[papur]], [[cardbord]] a [[lledr]]. Sut bynnag, mai rhai pobl yn dadlau nad yw [[pren caled]] yn adnewyddadwy oherwydd y maint o amser mae'n cymryd i dyfu. Ac mae'n rhaid cofio fod angen ynni i gludo deunyddiau ac i drin adnoddau fel dŵr. Ar hynny, mae'n bosib dinistrio'r cydbwysedd naturiol trwy gor-ddefnyddio adnoddau. Mae'n rhaid rheoli ein defnydd o adnoddau adnewyddadwy megis [[ynni geothermal]], dŵr croyw, pren a biomas fel nad ydym yn gorweithio'r amgylchedd ac er mwyn iddynt gael amser i ddo atynt eu hunain.
 
== Deunyddiau adnewyddadwy ==
 
Nid yw deunyddiau wedi eu gwneud o [[Tanwydd ffosil|danwydd ffosil]] ddim yn adnewyddadwy gan y byddant, ryw dro, yn dod i ben. Mae'n bosib ailgylchu dur, alwminiwm neu gopr o wastraff metel, ond pan yr ailgylchir alwminiwm defnyddir llawer o ynni, fel arfer ynni tanwydd ffosil neu [[ynni atomig]].
Llinell 8 ⟶ 10:
Mae'n bosib torri [[polimer]] i lawr i [[monomer|fonomer]]au mewn labordy, ond ar hyn o bryd dydi ailgylchu [[plastig]] ddim yn economaidd achos fod [[olew crai]] yn rhatach na monomerau wedi ei thorri i lawer a'u golchi. Ac mae'n bosib cynhyrchu petrol o olew planhigion fel olew had [[rêp]]. Gelwir hynny'n [[bio-diesel]].
 
=== Ynni adnewyddadwy ===
 
Ceir cryn ddadlau ynglyn ag ydyw ynni atomig yn adnewydadwy neu beidio. Ar y naill law mae hi'n bosib ailgylchu'r tanwydd, ond ar y llaw arall mae gwastraff atomig yn beryglus iawn a mae mwyngloddio am [[wraniwm]] hefyd yn beryglus oherwydd yr [[ymbelydredd]].