Buwch Frech: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Yn ei draethawd ar lên gwerin, ar gyfer [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llundain 1887|Eisteddfod Genedlaethol 1887]], disgrifia [[Elias Owen]] stori am fuwch hudol o ardal [[Mynydd Hiraethog]]. Roedd yn wyn pur gyda brychni pinc ac roedd ganddi gyflwenwad diddiwedd o lefrith. Roedd y fuwch yn darparu llefrith i drigolion yr ardal ond fe'i twyllwyd gan [[gwrach|wrach]] genfigennus a geisiodd ei godro'n sych. Y dilyn hyn fe ddiflannodd y fuwch, gan gerdded i mewn i lyn cyfagos ac fe'i dilynwyd i'r llyn gan ddau [[Ychen Bannog]] yr oedd hi'n fam arnynt.
 
Yn ôl [[Hugh Evans]] yn ei lyfr ''Y Tylwyth Teg'', trigai'r fuwch—a elwir yn 'Fuwch Fraith Hiraethog' gan yr awdur—"yn rhywle rhwng y Clawdd Newydd a Llyn Dau Ychen." Arferai grwydro o amgylch ardal [[Uwch Aled]] a chyflenwi llefrith i'r bobl leol. Ceir hanes yr hen wrach sy'n gyrru'r fuwch yn wallgof am nad oedd ganddi lefrith ar ôl iddi a sut y diflannodd wedyn i Lyn Dau Ychen.<ref>Hugh Evans, ''Y Tylwyth Teg'' (Lerpwl, 1935), tud. 53.</ref>
 
Mae chwedl y Fuwch Frech yn perthyn i gylch o draddodiadau am wartheg arallfydol a geir yn llên gwerin y [[Celtiaid]]: ceir enghraifft arall yng Nghymru yn chwedl [[Llyn y Fan Fach|Arglwyddes Llyn y Fan]]. Mae'n bosibl fod y chwedlau hyn yn gof gwerin am un o dduwiesau'r Celtiaid fel [[Boann]], duwies y gwartheg ym mytholeg Iwerddon.