Xixón: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
comarca
Cotarros
Llinell 2:
[[Delwedd:Montaje Gijon.jpg|250px|bawd|Golygfeydd yn Xixón.]]
 
Dinas ddiwydiannol arfordirol yw '''Xixón''' ([[Sbaeneg]]: '''Gijón''') sydd wedi'i lleoli yng [[Asturias|Nghymuned Ymreolaethol Astwrias]] yng ngogledd [[Sbaen]]. Mae hefyd yn israniad gweinyddol a elwir yn ''Cotarros '' (Sbaeneg: ''comarca''). Yn ôl testunau hynafol a ddarganfuwyd, cyfeirid at y ddinas fel "Gijia" yn wreiddiol. Roedd hi'n ddinas bwysig yn yr oes [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]], fel y tystia'r gweddillion y daethpwyd o hyd iddynt ger y prom modern. Yn wreiddiol, cyfeiria'r enw "Gijia" at y penrhyn bach a elwir yn Cimadevilla y dyddiau hyn; wrth i'r ddinas ddatblygu a thyfu, datblygodd o gwmpas y traethau sy'n amgylchu'r penrhyn a'r porthladd. Prif borthladd y ddinas yw "El Musel", un o borthladdoedd pwysicaf Sbaen. Mae poblogaeth Xixón yn dal i gynyddu. Ar hyn o bryd, mae tua 275,000 (2005).
 
== Daearyddiaeth ==
Llinell 17:
== Chwaraeon ==
Mae tîm pêl-droed Sporting de Xixón yn cystadlu yng Nghyngrair Sbaen ac mae'r tîm yn yr ail adran ar hyn o bryd. Math arall o chwaraeon sy'n boblogaidd yw pêl-fasged. Mae Xixón Baloncesto yn ail adran pêl-fasged broffesiynol Sbaen.
 
== Cotarros ==
Mae Xixón hefyd yn un o 8 Cotarros (rhaniad gweinyddol) Asturias (Sbaeneg: Comarca) yn Asturias.
 
Ceir tair is-raniad pellach (a elwir yn Conceyu): [[Villaviciosa]], Xixón (y ddinas) a [[Carreño]].
 
[[Delwedd:Map of Asturias highlighting Gijon (comarca).png|400px]]
 
{{Trefi a dinasoedd mwyaf Asturias}}