Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhediad y frawddeg
Llinell 104:
:''Lleddid, a diawl a'i lladdawdd''<ref> Elissa R. Henken ''National redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh tradition'' t. 50</ref>
 
Daethpwyd i uniaethu Owain a'r [[Mab Darogan]], y gwaredwr a ddaw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth derfynol ar y Saeson a'u gyrru allan o Ynys Prydain gan adfer y deyrnas i feddiant y Cymry, disgynyddion y Brythoniaid. Yng nghyfnod Owain, roedddechreuodd corff mawr o gerddi darogan poblogaidd gylchredeg y wlad, yn proffwydoli ail-ddyfodiad y Mab Darogan a'i alw gan amlaf yn "Owain," traddodiad a barhaodd hyd y ganrif ddilynol.
 
Fe ragbaratodd y ffordd i Owain arall ei ddilyn: [[Owain Glyndŵr]]. Mabwysiadodd Glyndŵr arfbais Owain Lawgoch, oedd yn fersiwn o arfbais [[Teyrnas Gwynedd]], ond gydag ystum y llewod yn wahanol i'r rhai ar arfbais Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd; newid a wnaed yn ôl [[R.R. Davies]] gan un o hynafiaid Owain Lawgoch. Trwy gymeryd yr arfau hyn, roedd Glyndŵr yn ei gyhoeddi ei hun yn olynydd Owain Lawgoch. Pan yrrodd lysgenhadon at frenin Ffrainc, atgoffodd Glyndŵr y brenin fod Owain Lawgoch wedi marw yng ngwasanaeth Siarl V, brenin Ffrainc. <ref>R.R. Davies ''The revolt of Owain Glyndŵr'' tt. 160-1, 163</ref>