Cellbilen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn tacluso; mae hon yn erthygl arbennig o dda.
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwnegu tarddiad y gellbilen
Llinell 31:
 
Mae sterolau’n bresennol yn y rhan fwyaf o gellbilenni celloedd ewcaryotig. Y prif sterol yng nghellbilenni celloedd anifeiliaid yw colesterol, a'r prif sterol yng nghellbilenni celloedd planhigion yw ffytosterol. Mae gan colesterol adeiledd cylchol anhyblyg gydag un grw^p hydrocsyl sy’n hydroffilig; mae gweddill y molecwl yn hydroffobig. Ar wahanol dymereddau mae colesterol yn effeithio hylifedd pilenni mewn gwahanol ffyrdd. Mae colesterol yn lleihau hylifedd pilenni ar dymheredd uchel drwy leihau symudiad ffosffolipidau’r bilen gan fod colesterol yn folecwl anhyblyg. Ar dymereddau isel, mae colesterol yn cynyddu hylifedd pilenni drwy atal ffosffolipidau’r bilen rhag pacio’n agos at ei gilydd.
 
 
== Ymhle y ffurfir y gellbilen ? ==
 
[[Delwedd:Endobilen1.png|thumb|right|250px|Llif Endobilen]]Mewn celloedd ewcaryotig, nid yw’r gellbilen yn annibynnol o weddill pilenni’r gell, ond yn rhan o’r gyfundrefn endobilen, un o brif nodweddion celloedd ewcaryotig. Mae holl organynnau’r gell, ac eithrio’r organynnau paleo-symbiotig (y mitocondrion a’r cloroplast), yn rhan o’r gyfundrefn hon. Mae’r holl bilenni yma yn hanu o’r reticwlwm endoplasmig (ER). Ar ribosomau’r ER garw adeiledir holl broteinau'r endobilenni, ynghyd â’r holl broteinau a allforir, neu a gynhwysir yn lwmen un o’r organynnau endobilennog (megis y Golgi, y lysosom, y cnewyllyn a’r ER ei hun). Yn yr ER hefyd y ffurfir yr haenen ddeulipid. Daw ffosffolipidau’r bilen o ragflaenyddion yn y cytoplasm, felly i ddechrau, dim ond yr ochr cytoplasmig i’r bilen a ffurfia . Prosesau dewisol ym mhilen yr ER sy’n symud rhai lipidau o un ochr y bilen i’r llall (ochr y lwmen). Dyma darddiad y gwahaniaeth rhwng y ddwy haen a welir yn holl endobilenni’r gell.
Hylif yw pob pilen fiolegol fyw, a thrwy broses o lifo (llifo endobilennog) mae rhannau o’r ER yn ymryddhau ac yn symud i wyneb cis yr organigyn Golgi. Wrth lifo o’r wyneb cis i’r wyneb trans mae nifer helaeth o newidiadau yn digwydd i’r proteinau a’r lipidau. Un o’r newidiadau pwysicaf yw ychwanegu a newid grwpiau carbohydrad. Yn y Golgi ffurfir y glycoproteinau a’r glycolipidau sy’n holl bwysig i weithredoedd y gellbilen (megis antigenau ABO y grwpiau gwaed). Yma, hefyd, y ffurfir holl bolysacaridau muriau celloedd planhigion (ac eithrio cellwlos) a’r mwcws sy’n nodweddu annwyd trwm.
Wrth adael wyneb trans y Golgi, bydd targed gwahanol bilenni wedi’i nodi ynddynt mewn modd nid annhebyg i gôd post. Yn y modd hwn bydd pilen gyfan newydd yn cyrraedd ac yn ymdoddi i’r gellbilen sy’n bodoli eisioes. Bydd y wyneb cytoplasmig o’r ER yn dal i wynebu’r cytoplasm, a’r wyneb allanol wedi’i ffurfio gan y prosesau a drosglwyddodd unedau o un haen o’r haen ddeulipid i’r llall yn yr ER a’r Golgi.
Petai siwrnai un cyfeiriad oedd y llif endobilennol, byddai’r broses hwn yn cynhyrchu gormodedd o arwynebedd i’r gell. Atebir hwn trwy broses o ailgylchu’r gell bilen yn ôl i’r Golgi, i’r ER ac i rannau o’r gell lle dadelfennir y bilen i’w elfennau yn barod i’w ail ddefnyddio.
 
 
== Beth yw priodweddau’r haen ddeulipid? ==