Cywydd deuair hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso
parhau
Llinell 1:
{{24 mesur}}
Ffurfir y '''[[Cywydd]] Deuair Hirion''' (neu '''[[Cywydd]]''') o gwpledi sy'n odli, saith sillaf i bob llinell, a phob llinell mewn [[cynghanedd]]. Rhaid i un brifodl fod yn acennog a'r llall yn ddiacen, er nad oes ots ym mha drefn y gwneir hynny. Er engraifft,
 
:Pa eisiau dim hapusach,
:Na byd yr aderyn bach? ([[Waldo Williams]])
:Byd o hedfan a chanu
:A hwylio toc i gael tŷ.
 
([[Waldo Williams]])
 
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.<ref>Anghenion y Gynghanedd gan Alan Llwyd, Gwasg Prifysgol Cymru 1973.</ref>
 
O'r [[traethodl]] y datblygodd y cywydd, mesur mwy israddol. Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod [[torr mesur]] ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir [[cynghanedd lusg]] yn ail linell y cwpled. Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.
 
===Gweler hefyd===
* [[Cywydd]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn llenyddiaeth}}